Y Cyngor yn lansio ymgyrch buddion mynychu’r ysgol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 09 Ionawr 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio ymgyrch sy’n amlygu pwysigrwydd mynychu’r ysgol.
Gyda chefnogaeth ysgolion ledled y fwrdeistref sirol, mae’r ymgyrch yn amlygu pa mor bwysig yw hi i blant fynychu’r ysgol a dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn dilyn problemau pandemig COVID-19. Mae’n canolbwyntio ar fuddion mynd i’r ysgol y tu hwnt i addysg yn unig, gan ddarparu cefnogaeth ac adnoddau i rieni’r plant sy’n ei chael hi’n anodd mynychu’r ysgol.
Mae’n hanfodol bwysig bod plant ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn mynychu’r ysgol ar bob cyfle. Er enghraifft, gyda chyfradd bresenoldeb o 90 y cant yn ystod un flwyddyn ysgol, gallai disgybl golli dros 100 o wersi.
Nid oes gan rieni a gofalwyr disgyblion ysgol yr hawl i dynnu ysgolion o’r ysgol yn ystod y tymor ac mae’n rhaid i unrhyw gais am absenoldeb gael ei gymeradwyo gan benaethiaid cyn y cyfnod hwnnw o absenoldeb.
Wedi cyfnod anodd o ddwy flynedd, mae’n eithriadol o bwysig sicrhau bod disgyblion yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Gall mynychu’r ysgol roi’r cyfle gorau i blant allu llwyddo yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Mae llwyddo mewn addysg yn bwysig, ond mae amryw o fuddion eraill hefyd wrth i ddisgyblion gael eu haddysgu. Gwyddom y bydd rhai disgyblion yn wynebu heriau wrth geisio mynychu’r ysgol yn rheolaidd, a hoffem sicrhau rhieni a disgyblion bod cymorth ar gael iddynt.
Os yw’ch plentyn yn ei chael hi’n anodd mynychu’r ysgol, cysylltwch â’ch ysgol i gael cymorth a chyngor.
Y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i dudalen we presenoldeb yn yr ysgol ar wefan y cyngor.