Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn gwarchod ffyniant bioamrywiaeth yn sgil cau’r diwydiant cloddio glo

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwarae ei ran yn y broses o hyrwyddo a gwarchod y fioamrywiaeth sydd wedi disodli tirwedd greithiog y cymoedd cloddio glo, yn ogystal â’r bywyd gwyllt sydd i’w weld mewn mannau gwyrdd eraill ar hyd a lled ei gymunedau.

Mae natur wedi adennill y tir a gafodd unwaith ei ddifrodi gan safleoedd cloddio glo ar draws y fwrdeistref sirol.  Mae gan Barc Calon Lan yng Nghwm Garw, a Golchfeydd Ogwr yng Nghwm Ogwr safleoedd tomenni glofeydd sydd wedi cael eu trawsnewid yn fannau gwyrdd dros sawl degawd o gytrefu naturiol ac maent nawr yn cael eu rheoli gan y cyngor fel dolydd blodau gwyllt.

Mae'r safleoedd hyn, sydd yn frith o gynefinoedd unigryw ar gyfer bywyd gwyllt, yn gartref i gymunedau amrywiol o rywogaethau gan gynnwys y gardwenynen lwydfrown, a welwyd yng Ngolchfeydd Ogwr.  Ochr yn ochr â'r gwaith cadwraeth a gynigir gan y cyngor, mae’r Prosiect Colliery Spoil yn fenter i godi ymwybyddiaeth o werth y fioamrywiaeth sydd i'w chanfod mewn safleoedd tomenni glofeydd, gyda'r nod o warchod ardaloedd o'r fath rhag datblygiad tai neu ddiwydiannol, eu tynnu oddi yno, ffermydd solar a bygythiadau tebyg eraill.

DywedoddLiam Olds, entomolegwr sy’n arwain y Prosiect Colliery Spoil: “Ar un cyfnod roedd yn brif ganolbwynt y diwydiant trwm yng Nghymoedd De Cymru, ond heddiw mae ein cyn safleoedd tomenni glo yn lloches i rai o rywogaethau mwyaf prin y wlad, sydd dan y bygythiad mwyaf.

“O’r wiber adnabyddus a’r tegeirian gwenynog poblogaidd i'r gwenyn Tormentil a'r glöyn byw penllwyd, nad ydynt yn hysbys iawn, mae'r llochesi annhebygol hyn yn cefnogi cymysgedd amrywiol o gynefinoedd, sy’n gyfoeth o fioamrywiaeth. Er eu bod yn aml yn cael eu hesgeuluso a’u camddeall gan lawer, maent yn gweithredu fel tystiolaeth o wydnwch natur yng nghanol y cymunedau cloddio glo a luniodd y tirlun hwn. 

“Mae’n bwysig gwarchod y safleoedd hyn, nid yn unig i warchod eu cyfoeth o fioamrywiaeth, ond i warchod ein treftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol hefyd.” 

“Yn ogystal â chefnogi bioamrywiaeth sydd i'w gweld mewn rhai safleoedd tomenni glo, mae’r cyngor yn goruchwylio casgliad o fannau gwyrdd ledled y fwrdeistref sirol.  Mae gwarchodfeydd natur, gan gynnwys Coedwig Pwll y Broga, Craig-y-Parcau a mannau gwyrdd eraill yn cael eu rheoli i gynyddu poblogaethau cacwn a gloÿnnod byw, gyda'r gobaith y bydd y mathau mwy prin yn parhau i sefydlu cartrefi newydd.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn un o’r unig chwe lle yn y DU sy’n parhau i fod â phoblogaeth o’r gardwenynen fain - un o’r mathau o gacwn mwyaf prin, a dan y bygythiad mwyaf yn y wlad. Mae'r ardal hefyd yn gartref i’r gardwenynen lwydfrown ac mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gydag ystod o glybiau golff arfordirol a ffermwyr, yn ogystal â Gwarchodfa Natur Merthyr Mawr, i wella’r cynefin ar gyfer y cacwn ar hyd yr arfordir.

Dywedodd Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Cymunedau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Am wych ein bod, drwy gael gwared â’r diwydiant trwm a chloddioglo, bod natur wedi trawsnewid y dirwedd. Mae'n eironig bod y cyn safleoedd cloddio glo yn y fwrdeistref sirol erbyn hyn yn cynnig cynefinoedd cyfoethog ac unigryw ar gyfer y bywyd gwyllt a ddinistriwyd ganddynt ar un cyfnod.

Mae’r cyngor yn gwarchod ac yn hyrwyddo'r fioamrywiaeth yr ydym yn ffodus iawn o’i chael yn ein hardal, yn enwedig fel un o’r ychydig ardaloedd yn y DU sy’n gartref i’r gardwenynen fain. Rydym yn croesawu ein cyfrifoldeb i barhau i warchod cynefinoedd a bywyd gwyllt o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sylweddol yn llwyr.

Ar hyd a lled y fwrdeistref sirol mae’r mannau gwyrdd o ansawdd uchel hyn yn cynnig amrywiaeth o ran llesiant i drigolion, ac rydym wedi sicrhau y gellir cyrraedd y mannau hyn ar droed neu ar feic - rwy’n annog pawb i fanteisio arnynt, ni fyddwch yn difaru!

Lluniau o Olchfeydd Ogwr.

Chwilio A i Y