Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn galw am newidiadau mawr i sut fydd gwasanaethau'n cael eu darparu yn y dyfodol

Mae gwleidyddion hŷn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhybuddio bod angen newidiadau 'angenrheidiol, hanfodol nad oes modd eu hosgoi' yn y ffyrdd mae gwasanaethau'n cael eu darparu cyn i'r awdurdod lleol nodi ei 30ain mlwyddiant yn 2026.

Cafodd y sylwadau eu gwneud cyn cyfarfod o'r Cabinet ar 23 Gorffennaf lle bydd adroddiadau'n cael eu trafod ynghylch materion yn amrywio o sefyllfa ariannol y cyngor i newidiadau arfaethedig i addysg feithrin, cludiant i ddysgwyr a mwy.

Fel pob awdurdod lleol arall ar draws y wlad, treuliwyd y 14 mlynedd ddiwethaf yn delio gyda heriau ariannol hynod o sylweddol tra'n ceisio darparu cannoedd o wahanol wasanaethau. Yn ystod yr amser hwnnw, mae ein hariannu wedi ei leihau o dros £88.4m - sy'n cyfateb i geisio darparu gwasanaethau o safon uchel tra'n torri dros £6.3m o'n cyllideb, bob blwyddyn, am 14 mlynedd yn olynol.

Wrth gwrs, allwch chi ddim parhau i wneud hynny am byth, ac mae'r cyngor bellach wedi cyrraedd sefyllfa lle na allwn ni ddarparu popeth rydym ni wedi'i wneud yn y gorffennol yn yr un ffordd.

Rydym yn dechrau ar gyfnod newydd o newid, ac yn wyneb yr argyfwng ariannu cenedlaethol cyfredol, bydd angen i'r cyngor yn 2026 fod yn sefydliad cwbl wahanol i'r un a grëwyd yn wreiddiol ar 1 Ebrill 1996.

Arweinydd y Cyngor John Spanswick

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad - Y Cynghorydd Hywel Williams: "Dyw'r cyngor ddim yn rhydd o'r argyfwng costau byw o bell ffordd, ac mae'r cynnydd aruthrol ym mhris deunyddiau, nwyddau, ynni, tanwydd a mwy wedi gadael ei ôl, fel y mae digwyddiadau byd-eang megis Covid-19 a'r rhyfel yn Wcráin.

"Rhwng 2025-26 a 2027-28, rydym yn rhagweld y bydd angen torri ymhellach ar wariant gwasanaethau o £32m os yw'r cyngor i gyflawni ei gyfrifoldeb cyfreithiol o osod cyllideb gytbwys bob blwyddyn, ond mae'r rhan fwyaf o opsiynau ar gyfer arbed arian, sy'n amddiffyn pobl rhag effaith lawn toriadau, bellach yn ddisbyddedig.

"Fel awdurdod lleol cyfrifol, rydym bob amser wedi cymryd golwg ofalus, realistig ar sut rydym yn darparu gwasanaethau, ond rydym erbyn hyn wedi cyrraedd pwynt lle mae'n rhaid i ni nawr ystyried pa wasanaethau y gellir parhau â hwy, pa rai ellir eu darparu gan sefydliadau gwahanol yn y dyfodol, a pha rai fydd angen ymgymryd â newidiadau sylweddol neu fel arall ddod i ben yn gyfan gwbl.

"Mae'n bosib bod newidiadau o'r fath yn angenrheidiol, yn hanfodol, ac yn rhai nad oes modd eu hosgoi, ond allwn ni ddim eu cyflawni ar ein pen ein hunain. Bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai gyda'r mwyaf heriol y mae cynghorau yn y DU erioed wedi gorfod paratoi ar eu cyfer, ac mae'n hanfodol bod mwy o bobl yn deall hyn, ac yn sylweddoli pa fath o ddewisiadau anodd y bydd angen eu gwneud.

"Rydym eisiau cynnal trafodaethau agored, gonest ac ystyrlon gyda'n preswylwyr, staff, busnesau lleol, partneriaid a sefydliadau eraill ynghylch sut un ddylai cyngor 2026 fod. Gan weithio gyda'n gilydd, rydym eisiau adeiladu ar gryfderau'r gorffennol er mwyn sefydlu dyfodol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac yn fwy disglair."

Mae'r cyngor eisoes wedi cyflwyno nifer o newidiadau sy'n symud tuag at sut y gallai rhai gwasanaethau gael eu darparu o bosib yn y dyfodol. Yn 2002, Pen-y-bont ar Ogwr oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i drosglwyddo ei stoc tai drosodd i ddarparwr nid-er-elw oedd â'r gallu i gael mynediad at arian newydd a gwneud gwelliannau ar raddfa fawr na allai'r cyngor eu darparu fel arall ar ei ben ei hun. 

Pan gymerodd Halo Leisure Ltd yr awenau gan reoli canolfannau chwaraeon a phyllau nofio ar ran y cyngor yn 2012, arweiniodd hyn at raglen o fuddsoddiadau o filiynau o bunnoedd ymhellach. Yna, yn 2015, trosglwyddwyd rheolaeth llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol celfyddydol i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen gan alluogi i adeiladau megis Neuadd y Dref Maesteg a'r Grand Pavilion gael eu trawsnewid gan fuddsoddiad o sawl miliwn o bunnoedd.

Mae'r cyngor hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i ddarparu gwasanaethau cyfunol sydd wedi bod yn fwy effeithiol a chydnerth, gan gynnwys y Gwasanaeth Rheolaethol a Rennir, y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol ac eraill. Mewn man arall, mae'r fenter trosglwyddo asedau cymunedol yn cadw cyfleusterau ar agor ac ar gael - yn amrywio o doiledau cyhoeddus i bafiliynau chwaraeon, ac mewn sawl achos mae hyn hefyd wedi galluogi i fuddsoddiad o'r newydd gael ei wneud.

Mae'r cyfan o'r newyddbethau hyn wedi dod â budd i gymunedau lleol tra'n sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau wedi gallu parhau, hyd yn oed wrth i'r cyngor wneud arbedion angenrheidiol nad oes modd eu hosgoi.

Gan edrych ymlaen tuag at y dyfodol, meddai'r Cynghorydd Williams: "Erbyn 2026, rydym yn credu y bydd y cyngor yn llai, yn gweithio'n fwy deallus ac yn byw o fewn ei allu, ond hefyd yn uchelgeisiol wrth ddarparu gwasanaethau allweddol o safon uchel trwy weithio mewn ffordd fwy dyfeisgar, a ffocysu'r adnoddau sydd ar gael gennym mewn ffordd wahanol.              

"Rydym eisoes wedi symbylu nifer o fesurau newydd i arbed arian yn fewnol, gan gynnwys ond recriwtio i swyddi allweddol sy'n helpu'r cyngor i gyflawni, lleihau'r nifer o adeiladau a chanolfannau mae'r awdurdod angen eu defnyddio, a dim ond prynu nwyddau a chyflenwadau sy'n hollol hanfodol.

"Bydd beth fydd yn digwydd nesaf yn cael ei arwain yn bennaf gan ganlyniadau ymgysylltu gyda phobl leol, felly rwy'n gobeithio y byddwch yn cymryd y cyfle hwn i helpu llywio dyfodol gwasanaethau'r cyngor."

Dywedodd y Cynghorydd Spanswick: "Yn wyneb dyfodol mor anodd, rydym yn bwriadu ymgymryd ag ymgynghoriad eang yn yr hydref ynghylch sut all y cyngor weithio ar y cyd gyda chymunedau lleol a'i bartneriaid er mwyn penderfynu pa fath o newidiadau fydd angen eu cymryd yn y dyfodol.

"Bydd angen i hyn fod yn seiliedig ar farn cwbl onest sy'n edrych ar yr heriau sydd ger ein bron, a'r angen am gydbwyso'r hyn mae pobl ei eisiau gyda'r hyn ellir ei gyflawni yn realistig.

"Nid yw ein hadnoddau'n ddiddiwedd, ac mae'n rhaid sylweddoli a derbyn os ydym ni'n buddsoddi arian mewn un gwasanaeth, yna mae'n bosib iawn y bydd un arall yn gorfod gwneud heb oni bai bydd dull amgen o'i ddarparu yn gallu cael ei sefydlu.

"Fel rydym eisoes wedi gweld, dyw hyn ddim yn amhosib, ac mae nifer o wasanaethau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr a allai fod wedi bod mewn peryg o gael eu colli ynghanol y toriadau nid yn unig wedi gallu parhau, ond maent yn ffynnu'n dda oherwydd eu bod yn cael eu darparu mewn ffordd wahanol.

"Rydym eisiau i'r ymdeimlad hwn o arloesi ac ailddyfeisio barhau, ac i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd i ddarparu a derbyn gwasanaethau'r cyngor yn y dyfodol."

  • Bydd cyfarfod y Cabinet yn digwydd am 2pm ddydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024.

Chwilio A i Y