Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn diolch i'r cyhoedd am yr 'ymateb anhygoel' i Apêl Siôn Corn eleni!

Diolch i ymateb ysgubol gan aelodau'r cyhoedd a haelioni grwpiau, eglwysi a busnesau lleol, mae Apêl Siôn Corn 2024 wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl!

Mae tudalen roddion ar-lein 'Just Giving' a reolir gan ein partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi mwy na dyblu cyfanswm y llynedd, ac mae rhoddion hael wedi bod yn llifo i mewn i Swyddfeydd Dinesig y cyngor a'r mannau gollwng dynodedig yng nghyfleusterau hamdden Halo Leisure ar hyd y fwrdeistref sirol.

Dyma rai uchafbwyntiau o'r rhoddion caredig:

  • Mae Tudalen Just Giving Apêl Siôn Corn wedi codi cyfanswm gwerth £8,451.00 o gyfraniadau ariannol (sy'n cynnwys £1,497 mewn Rhodd Cymorth).
  • Mae canolfannau a phyllau nofio Halo Leisure wedi codi dros £500.
  • Llwyddodd Gwerthwyr Tai Porters i godi £500 yn ogystal.
  • Gwnaeth Clwb Golff y Pîl a Chynffig gyfraniad hael o £200.
  • Derbyniwyd rhoddion hefyd gan Gyfrifwyr Graham Paul a'r merched yn Bargains Galore.
  • Mae timau Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Gwasanaethau Dydd y cyngor wedi codi arian drwy werthu cacennau.
  • Mae Eglwys y Bedyddwyr Gobaith, Coleg Penybont a Grŵp Slimming World Bracla wedi rhoi teganau ac anrhegion, yn ogystal ag arian parod.
  • Cafodd teganau a rhoddion eu gadael yn Swyddfeydd Dinesig y cyngor a mannau gollwng dynodedig yng nghyfleusterau hamdden Halo Leisure.
  • Cododd staff Cymorth Busnes Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant £275 drwy werthu cacennau.
  • Cafwyd ymateb gwych i'r apêl gan fusnesau lleol gyda'u rhodd o arian parod a theganau.

Diolch enfawr hefyd i’r 50 o wirfoddolwyr a fu'n lapio a didoli dros 1,400 o deganau ac anrhegion ar gyfer plant a phobl ifanc yn y fwrdeistref sirol a enwebwyd gan y timau Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar/Dechrau’n Deg.

Er gwaethaf blwyddyn ariannol heriol arall i lawer, mae caredigrwydd ac ymateb trigolion lleol i'r alwad am roddion i Apêl Siôn Corn eleni wedi bod yn anhygoel. Mae haelioni pobl wedi ein rhyfeddu ac rydym yn falch iawn y bydd hyn yn sicrhau bod 278 o blant a phobl ifanc lleol dan ein gofal am dderbyn anrheg i'w agor ar Ddydd Nadolig.

Hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi ymdrechu a chymryd o'u hamser i gyfrannu at apêl eleni - mae eich haelioni a'ch caredigrwydd yn golygu bod gan blant lleol rywbeth i'w ddathlu'r Nadolig hwn. Hoffem ddiolch hefyd i’n partneriaid yn Awen, Halo a Choleg Penybont, yn ogystal â busnesau, elusennau a grwpiau eglwys lleol a staff y cyngor sydd wedi dod ynghyd i sicrhau bod pob plentyn dan ein gofal yn cael anrheg ar fore Nadolig.

Diolch i chi gyd am gyfrannu mor hael - byddai hyn yn amhosibl heb eich cefnogaeth!

Dirprwy Arweinydd y cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie
Gwaith tîm: Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Spanswick, Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Heather Griffiths gyda phartneriaid o Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Halo Leisure a Choleg Penybont yn y llun gyda Craig Hopkins o Eglwys y Tabernacl, Bracla.

Chwilio A i Y