Y cyngor yn derbyn sicrhad ynghylch amhariadau posibl mewn ysbyty
Poster information
Posted on: Dydd Iau 24 Hydref 2024
Mae aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn sicrhad gan Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ynglŷn â bwriad i reoli amhariadau posibl o ganlyniad i broblemau strwythurol gyda'r to yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Wrth gyfarch cyfarfod o’r Cyngor, eglurodd Mr Mears fod arolwg manwl wedi cadarnhau bod teils concrit a batonau cefnogol a ddefnyddiwyd wrth adeiladu’r to wedi dirywio cymaint dros y 40 mlynedd diwethaf nes bod dŵr glaw nawr yn llifo i mewn i’r adeilad.
O ganlyniad, mae tua 190 o gleifion a nifer o glinigau wedi symud i rannau eraill o’r ysbyty neu i safleoedd amgen oherwydd y risg y bydd rhannau o’r to yn dymchwel yn ystod gwyntoedd cryfion neu law trwm.
Dywedodd Mr Mears, er bod hyn wedi cael effaith ar wasanaethau’r ysbyty nad oedd modd eu hosgoi, mae cynlluniau ar waith ar gyfer rheoli a lleihau amhariadau i gleifion, ac maent yn cynnwys opsiynau fel paratoi wardiau modiwlaidd i ddarparu lle ychwanegol neu sefydlu theatrau llawdriniaethau a gwelyau llawfeddygol dros dro.
Clywodd aelodau, er bod angen rhaglen newydd sylweddol i gymryd lle’r hen raglen i fynd i'r afael â phroblem y to, mae'r bwrdd iechyd yng nghamau olaf y broses o benodi contractwr. Gan gychwyn ym mis Tachwedd, cynhelir gwaith fesul cam er mwyn i rannau o’r ysbyty allu ailagor bob tro y bydd cam newydd yn cael ei gwblhau. Disgwylir i’r to newydd fod yn ei le, wedi’i gwblhau erbyn haf 2025.
Cadarnhaodd Mr Mears hefyd bod amcangyfrif costau ar gyfer y to newydd yn £20m, a bod y bwrdd iechyd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn ar hyn o bryd.
Wrth ateb cwestiynau unigol gan aelodau, bu i Mr Mears gydnabod bod y problemau gyda’r to yn rhan o ôl-groniad cynnal a chadw gwerth miliynau o bunnoedd y gwnaeth y bwrdd iechyd ei etifeddu pan gymerodd gyfrifoldeb dros ardal Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2019. Eglurodd fod mwy nag £20m wedi cael ei wario wrth geisio mynd i’r afael â hyn dros y bum mlynedd ddiwethaf, ac eglurodd pam na fu gweithredu ar y problemau gyda’r to cyn hynny.
Dywedodd: “Mae safle Ysbyty Tywysoges Cymru wedi cael problemau sylweddol gyda’i system larwm tân, ei seilwaith trydanol a nifer o bethau eraill nad ydynt yn amlwg i gleifion neu staff ar yr olwg gyntaf. Roedd yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwario arian ar bethau a oedd yn achosi’r risg mwyaf uniongyrchol, ac ar y pryd, nid oedd y to yn cael ei weld fel y risg mwyaf sylweddol.”
Pan ofynnwyd iddo a oedd cyllid yn canolbwyntio mwy ar adnewyddu Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ar draul Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywedodd Mr Mears: “Nid yw’n fater o flaenoriaethu un ysbyty dros y llall, mae'n fwy o achos o edrych yn gyson ar y risgiau rydym yn eu rheoli, a sicrhau y gallwn ganolbwyntio ar roi adnoddau i’r lleoedd sydd eu hangen fwyaf pan fo hynny’n briodol.”
Wrth drafod sut y gall teuluoedd gadw mewn cysylltiad gyda chleifion a allai fod wedi gorfod symud lleoliad, dywedodd Mr Mears: “Rydym wedi bod yn siarad gyda phob claf a’u teuluoedd. Y flaenoriaeth gyntaf oedd symud pobl i'r lleoliadau newydd, ond nawr eu bod yn dechrau setlo, rydym yn edrych ar eu profiad yn hyn o beth, a oes unrhyw broblemau penodol yn dod i’r amlwg, ac a ddylem fod yn ystyried cyfleoedd i ddarparu ychydig o drafnidiaeth i wahanol leoliadau.”
Wrth drafod a fyddai gwersi yn cael eu dysgu a pha weithdrefnau a allai gael eu rhoi ar waith i osgoi digwyddiadau difrifol yn y dyfodol, dywedodd Mr Mears wrth yr aelodau: “Byddwn yn edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd ers i ni gael perchnogaeth dros safle Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae gan ein tîm raglen reolaidd ar waith ar gyfer adolygu ein safleoedd ac adnabod lle mae gennym broblemau ôl-groniad cynnal a chadw, a phroses hefyd ar gyfer sut yr ydym yn mynd i ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer y flaenoriaeth fwyaf.”
Cynigiodd Mr Mears sicrhad ynghylch llesiant parhaus staff yn yr ysbyty a chadarnhaodd fod ganddynt fynediad at gymorth iechyd a llesiant 24 awr y dydd. Amlinellodd hefyd sut yr oedd cefnogaeth gymunedol yn cael ei datblygu drwy fenter ‘ysbyty yn y cartref’ ar gyfer cleifion sydd wedi cael eu rhyddhau, eglurodd fod asesiadau ar waith i sicrhau bod cleifion sy’n byw gyda chyflyrau fel dementia neu anawsterau dysgu yn gallu mynychu lleoliad amgen sy’n briodol ar gyfer eu hanghenion, a chadarnhaodd, os nad oes rhywun wedi cysylltu â hwy gyda diweddariad ar y manylion, dylai pobl sy’n aros am apwyntiad wedi’i drefnu yn Ysbyty Tywysoges Cymru fynychu’r apwyntiad yn ôl yr arfer.
Ymddiheuraf am effaith yr heriau hyn, ond rwyf eisiau tawelu eich meddwl drwy gadarnhau bod pob penderfyniad yr ydym wedi ei wneud yn seiliedig ar sicrhau y gallwn gadw ein cleifion a’n staff mor ddiogel â phosibl o ystyried y risgiau y gwyddom amdanynt.
Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Ewch i wefan Bwrdd Iechyd CTMU am y newyddion diweddaraf am yr ysbyty.