Y cyngor yn cytuno i drosglwyddo arian dan Raglen Gyfalaf er mwyn cefnogi camau olaf ailddatblygu neuadd tref
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i drosglwyddo arian o’i gronfa Rhaglen Gyfalaf i gefnogi camau olaf ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â rhannau pellach o bydredd sych yn yr adeilad rhestredig Gradd II, sy’n 141 mlwydd oed, a chymryd camau ataliol hefyd i ddiogelu yn erbyn problemau pydredd sych yn y dyfodol, a diogelu’r adeilad am ddegawdau i ddod.
Mae swyddogion adfer y cyngor hefyd wedi cyflwyno cais am Gyllid Treftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn cefnogi’r prosiect.
Mae'r adeilad eiconig yn cael ei ailddatblygu'n sylweddol yn y buddsoddiad mwyaf mae canol tref Maesteg wedi’i weld ers degawdau, gyda’r nod o adfer yr adeilad i'w hen ogoniant, a'i wella gyda nodweddion modern, fel atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a sinema, caffi a bar mesanîn, canolfan dreftadaeth a llyfrgell.
Mae'r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, Tasglu'r Cymoedd, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Maesteg, a’r Ymddiriedolaeth Davies.