Y Cyngor yn cymryd camau cyfreithiol i ddiogelu darpariaeth ysgol gynradd a rhandiroedd cymunedol newydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 22 Chwefror 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd yn cymryd camau cyfreithiol pellach i sicrhau na fydd trigolion Mynydd Cynffig yn colli'r cyfle i gael buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd sydd â’r nod o ddarparu safle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, yn ogystal â rhandir gymunedol newydd sbon yn cynnwys 26 o blotiau wedi’u cyfarparu’n llawn.
Mae’r cyngor yn gweithredu ar ôl i ddefnyddwyr y rhandiroedd, sydd wedi’u lleoli ar dir sy’n perthyn i'r cyngor y tu ôl i Stryd Pwllygath ym Mynydd Cynffig, beidio â chydymffurfio â rhybudd cyfreithiol blaenorol yn gofyn iddynt adael y safle erbyn 29 Medi 2023.
Gan fod y dyddiad hwn wedi mynd heibio erbyn hyn, mae'r cyngor yn rhoi rhybudd cyfreithiol arall, cyn y posibilrwydd o gamau cyfreithiol yn y llys, yn hysbysu deiliaid plot y bydd yn rhaid iddynt adael y safle erbyn 11 Mawrth 2024.
Ar yr un pryd, mae’r cyngor yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i ddarparu safle rhandir newydd sbon, pwrpasol ar gyfer deiliaid plot, yn llawn cyfleusterau newydd. Wedi’i leoli gyferbyn â’r ysgol gynradd newydd, bydd y safle newydd yn cynnwys ffens ddiogelwch fodern newydd a gwell mynedfa at y plotiau.
Bydd pob rhandir unigol yn cynnwys pridd o ansawdd dda sy’n bodloni safonau penodol, llecyn llawr caled gyda sied newydd, casgen ddŵr, ffens bren newydd, cwt ieir a mynediad drwy giât.
Yn y cyfamser, bydd y safle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn disodli’r hen adeilad presennol gyda chyfleusterau addysgiadol modern a fydd yn gallu cefnogi hyd at 420 o blant lleol, ynghyd â meithrinfa â lle i 75 o blant.
Pwrpas hyn yw darparu cyfleusterau newydd i bobl Mynydd Cynffig, nid cymryd rhai sydd eisoes yn bodoli. Gwyddom fod y rhandiroedd presennol wedi bod yn eu lle ers peth amser ac rydym yn deall y bydd y cyfnod o newid yn achosi ychydig o anghyfleustra na ellir ei osgoi yn y tymor byr, ond dim ond edrych ar ddarluniad y safle rhandiroedd newydd sydd angen i chi ei wneud i wybod y bydd yn gyfleuster cymunedol parhaol, o ansawdd dda, a fydd wedi’i gyfarparu’n llawn i fodloni anghenion deiliaid plot.
Ar yr un pryd, bydd symud safle’r rhandiroedd ychydig yn sicrhau y gallwn roi ysgol gynradd a meithrinfa fodern wych i gymuned Mynydd Cynffig, ac y bydd y plant lleol yn gallu elwa o’r cychwyn gorau y gallwn ei roi mewn bywyd. Rydym eisoes wedi gofyn i ddeiliaid y rhandiroedd weithio gyda ni i gyflawni'r cynlluniau hyn. Ers 2021, rydym wedi cynnal nifer o gyfarfodydd, wedi ateb yr holl gwestiynau sydd wedi ein cyrraedd, ac wedi trafod y cynigion yn fanwl iawn. Rydym wedi dangos sut fydd safle newydd y rhandiroedd yn parhau i fod yn lleol, rydym wedi amlinellu pa fath o gyfleusterau newydd y gallant eu disgwyl, ac wedi rhannu manylion yr adroddiadau ecoleg a thraffig, yr amserlen ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud, strwythur y safle, trefniadau'r brydles a llawer mwy.
Dan y cynlluniau hyn, ni fydd rhaid i blant ddibynnu mwyach ar ysgol sy’n heneiddio ac nad yw bellach yn addas at ei diben. Caiff materion ynglŷn â’r defnydd o ddosbarthiadau dros dro, neu’r ffaith yr arferai'r ysgol fodoli ar ddau safle gwahanol, eu datrys, a bydd y gymuned yn parhau i elwa o gael rhandiroedd lleol, hygyrch sydd â chyfarpar da. Mae’r ffaith ein bod nawr yn gorfod rhoi rhybudd cyfreithiol pellach, er mai cyndyn ydym o wneud hynny, yn hynod siomedig gan fod gweithred o'r fath wastad wedi ei hystyried fel y dewis olaf. Serch hynny, ni allwn ganiatáu i'r cynlluniau hyn gael eu gohirio mwyach, yn enwedig pan maen nhw’n cynrychioli budd mor sylweddol i'r gymuned gyfan. Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflwyno sefyllfa lle mae pawb ynghlwm ar eu hennill. Gobeithiaf y bydd deiliaid y rhandiroedd yn gweld hyn, ac y byddant yn ein cefnogi nawr wrth i ni geisio cyflawni'r buddsoddiad hwn sydd werth miliynau o bunnoedd ar gyfer pobl Mynydd Cynffig.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Jane Gebbie: