Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn cyhoeddi ‘Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2024’

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dilyn cyflwyniad o’r uchafbwyntiau i’r Cyngor ar gynlluniau i wella’r gwasanaeth, ac yn ystyried y cynnydd sylweddol a wnaed dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond hefyd yn tynnu sylw at yr heriau o fodloni lefelau anghenion mewn cyd-destun ariannol anodd i lywodraeth leol.

Mae'r adroddiad statudol blynyddol yn darparu trosolwg o wasanaethau cymdeithasol a ddarperir ledled y fwrdeistref sirol, yn seiliedig ar dystiolaeth o ystod eang o ffynonellau, fel adborth gan staff a phobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, dangosyddion perfformiad allweddol, a mesuriadau cynnydd yn erbyn amcanion cyffredinol y cyngor.

Mae'r adroddiad wedi’i ysgrifennu ar gyfer ystod eang o bobl, gan gynnwys aelodau staff ac unigolion a gefnogir, ond hefyd aelodau etholedig, staff awdurdod lleol ac ystod o bartneriaid a darparwyr sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau.

Yn hanfodol, mae adroddiad eleni yn pwysleisio ymroddiad gweithlu gwasanaethau cymdeithasol y cyngor, gan ddechrau drwy ddiolch iddynt am weithio’n ddiflino i ofalu am bobl a’u cefnogi, yn aml yn ystod y cyfnodau anoddaf a mwyaf heriol yn eu bywydau.

Mae'r adroddiad yn dathlu llwyddiant, yn cydnabod meysydd o berfformiad da ac hefyd yn nodi newidiadau a gwelliannau sylweddol mewn ymarfer a darpariaeth gwasanaeth, er gwaethaf cynnydd mewn galw a heriau ariannol. Roedd gwelliant wedi’i gydnabod a pherfformiad dibynadwy yn arbennig o amlwg o ran goruchwylio rheolwyr, sicrhau ansawdd a thimau cymunedol integredig.

Fodd bynnag, mae hefyd yn tynnu sylw at heriau a risgiau, gan gynnwys cyfyngiadau ariannol, galw uchel am wasanaethau, ac - er bod tystiolaeth o welliannau sylweddol - cadw gweithlu. Mae'r adroddiad yn amlinellu strategaethau i fynd i'r afael â’r materion hyn, gan gynnwys y cynlluniau strategol ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion; cynllun adfer cyllideb yn canolbwyntio’n bennaf ar Fodelau Ymarfer ar gyfer cynaliadwyedd ariannol; a gwelliannau sylweddol o ran cadw staff, recriwtio a chynllunio gweithlu’r dyfodol.

Mae’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol y cyngor yn 2024/25 yn cynnwys gwella ymgysylltiad gyda phobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, parhau i gefnogi’r gweithlu, adeiladu ar gryfderau gweithio ar y cyd a phartneriaethau, a pharhau i roi arferion gwaith cymdeithasol newydd a thechnoleg sy’n anelu at ofal cymdeithasol cynaliadwy ar waith.

Mae llesiant y gweithlu a’r unigolion a gefnogir yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ar gyfer y gyfarwyddiaeth ac mae hyn yn hanfodol er mwyn parhau i wneud cynnydd rhagorol wrth gefnogi pobl a chymunedau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant - Y Cynghorydd Jane Gebbie: “Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn ymarfer hanfodol yn y broses o werthuso effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

“Mae’n darparu’r cyfle i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol hysbysu Arweinydd a Chabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y daith o welliannau a llwyddiannau yn 2023/24, a pha mor dda mae'r cyngor yn bodloni gofynion statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

“Mae hefyd yn tynnu sylw at newidiadau cadarnhaol sydd wedi digwydd o fewn gwasanaethau cymdeithasol i wneud cynnydd tuag at ddeilliannau llesiant cenedlaethol.

“Dymunwn gydnabod ein gweithlu am groesawu newidiadau sylweddol, ffyrdd newydd o weithio a modelau arferion gorau, yn erbyn y cefndir o gynnydd parhaus mewn galw ac angen, yn ogystal â’r cyfarwyddwr ei hun am ei harweinyddiaeth amhrisiadwy, drwy gydol yr hyn sydd wedi bod yn gyd-destun heriol o gynnydd mewn galw a chymhlethdod.

“Hoffwn ddiolch i chi am eich holl waith caled a chefnogaeth i gyflawni canlyniadau da, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd yn 2024/2025 i gyflawni pethau gwell fyth.”

Chwilio A i Y