Y Cyngor yn chwilio am darddiad problem pryfed tŷ
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 11 Medi 2024
Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd o’r Gwasanaeth Rheoleiddiol ar y Cyd yn ymweld â lleoliadau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i geisio canfod beth yw achos yr adroddiadau o gynnydd mewn pryfed tŷ.
Ymddengys bod y pryfed yn effeithio ar gartrefi ym Metws yn bennaf, ond ceir adroddiadau ohonynt mewn ardaloedd eraill, megis Mynyddcynffig a Broadloands.
Rwyf wedi cael llawer o alwadau a negeseuon e-bost gan breswylwyr yn pryderu ynghylch gofod delio â nifer fawr o bryfed tŷ cyffredin dros yr wythnos neu ddwy sydd wedi mynd heibio.
Rwyf wedi rhoi gwybod am hyn i arbenigwyr iechyd yr amgylchedd yn y Gwasanaeth Rheoleiddiol ar y Cyd, ac maen nhw mewn cysylltiad â rheoleiddwyr eraill er mwyn canfod ffynhonnell y pla. Nes eu bod wedi cwblhau’r broses hon, mae’n bwysig ceisio osgoi dyfalu o ble mae’r pryfed yn dod, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.
Wedi i’r ffynhonnell gael ei chadarnhau, bydd modd cymryd camau priodol i ddelio â’r broblem, ac rwy’n gobeithio y bydd gen i ragor o newyddion am hyn i breswylwyr cyn bo hir.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, yr aelod lleol dros Betws a’r Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid:
Mae’r Gwasanaeth Rheoleiddiol ar y Cyd yn darparu gwasanaethau hanfodol i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r rhain yn cynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thrwyddedu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Gwasanaethau Rheoleiddiol ar y Cyd ar wefan y cyngor.
Awgrymiadau i’ch helpu i ddelio â’r ‘Musca domestica’ – y pryf tŷ cyffredin
- Ceisiwch beidio â gadael llawer o eitemau heb orchudd allan - pethau fel bwyd anifeiliaid anwes, a allai ddenu pryfed tŷ.
- Cadwch ffrwythau yn yr oergell yn hytrach na mewn powlen - os byddant yn dechrau llwydo, byddant yn denu pryfed.
- Cofiwch lanhau unrhyw hylif sydd wedi gollwng ar unwaith - hyd yn oed dŵr - gan y bydd yn denu pryfed.
- Os oes gennych flychau baw ar gyfer anifeiliaid anwes, cofiwch gael gwared ar unrhyw faw cyn gynted â phosib.
- Rhowch eich gwastraff bwyd mewn bocs gwastraff bwyd neu fin sydd â chaead arno.
- Gwnewch yn siwr fod caeadau eich biniau sydd y tu allan wedi cau ac, os yw’n bosib, peidiwch â’u gosod yn ymyl drysau neu ffenestri.
- Gwnewch ddefnydd llawn o’r system ailgylchu yn y cartref, ac os bydd cynhwysydd wedi torri, gofynnwch am un newydd.
- Peidiwch â gadael drysau na ffenestri ar agor os oes gennych olau ymlaen.
- Gallwch annog pryfed i fynd allan o ystafell drwy ddiffodd y golau a gadael eich llenni a ffenest ar agor - bydd y pryfed yn mynd allan drwy'r ffenest tuag at olau dydd.
- Mae siopau lleol yn gwerthu ‘zappers’, papur dal pryfed a chwistrellau mewn ystod o ddewisiadau naturiol ac ecogyfeillgar.
- Gallwch hefyd greu eich trap eich hun drwy osod powlen o finegr seidr wedi’i gymysgu â mymryn o hylif golchi llestri ar arwyneb sefydlog.
- Mae rhai arogleuon naturiol yn cadw pryfed i ffwrdd - ceisiwch roi ychydig o olew ewcalyptws ar gadach a’i hongian yn ymyl drws neu ffenest, rhoi mint ar siliau ffenestri cegin, chwistrellu pupur wedi’i gymysgu â dŵr, neu gynnau cannwyll sitronela.
Am ragor o wybodaeth ynghylch delio â phryfed tŷ, edrychwch ar wefan y British Pest Control Association.