Y cyngor yn amlinellu cynlluniau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 19 Mawrth 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi amlinellu sut mae’n bwriadu darparu gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu i aelwydydd lleol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a thu hwnt.
Gyda’r contract rhwng Kier Services Limited a’r cyngor yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024, mae Plan B Management Solutions Ltd wedi cael eu penodi i ddarparu gwasanaeth interim dwy flynedd a fydd yn para tan 2026.
Bwriad hyn yw caniatáu mwy o amser i'r cyngor fanteisio ar newidiadau technolegol sy’n digwydd o ran datblygu cerbydau casglu glanach, mwy gwyrdd gydag allyriadau isel iawn, a hefyd i sicrhau bod gwasanaeth casglu mwy hirdymor yn gallu bodloni unrhyw dargedau ailgylchu newydd a allai gael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gwasanaeth interim yn parhau i ddefnyddio'r cerbydau a chynwysyddion gwastraff ac ailgylchu presennol, ac ni fydd unrhyw newidiadau i’r ffordd y caiff y deunyddiau eu casglu na dyddiau casgliadau aelwydydd.
Gan fod pob un o’r cerbydau a ddefnyddir ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu ar hyn o bryd yn cael archwiliad cynnal a chadw manwl bob chwe wythnos, mae’r fflyd yn dal i fod mewn cyflwr da a disgwylir y bydd yn dal yn addas i'w defnyddio hyd at ddiwedd y contract interim.
Mae'r cyngor hefyd wedi comisiynu adroddiad gan yr arbenigwyr Eunomia ar sut y gall y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu barhau wedi i'r contract interim ddod i ben ar 31 Mawrth 2026.
Mae hyn wedi canolbwyntio ar dri opsiwn gwahanol - dod â gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn ôl yn fewnol yn y cyngor, trosglwyddo’r gwasanaeth i gwmni masnachu awdurdod lleol, neu ail-gaffael contractwr gwasanaethau gwastraff allanol newydd - a thrafodwyd hyn yn ddiweddar mewn cyfarfod pwyllgor craffu.
Bydd adborth gan y pwyllgor craffu yn cael ei ystyried gan y Cabinet cyn penderfynu pa fodel gwasanaeth fydd y mwyaf effeithlon ac effeithiol ar gyfer y fwrdeistref sirol, a yw'n bosib ehangu'r gwasanaeth i gynnwys deunyddiau ychwanegol, pa mor aml y gwneir casgliadau a mwy.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “O ran gwastraff ac ailgylchu, mae ymdrechion rhagorol trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi sicrhau ein bod yn un o’r tair ardal sy’n perfformio orau yng Nghymru yn gyson.
“Gyda chyfradd ailgylchu o 72 y cant ar hyn o bryd, rydym yn parhau i ragori ar dargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru, ac rydym yn ailgyfeirio symiau sylweddol o wastraff rhag eu bod yn diweddu mewn safleoedd tirlenwi.
“Bydd Kier yn tynnu’n ôl o’r contract ar 31 Mawrth 2024 a bydd Plan B yn cymryd drosodd am gyfnod interim o ddwy flynedd hyd at 2026, ond yr unig newid y gallai deiliaid tai sylwi arno yw fod enw gwahanol i’w weld ar ochr cerbydau casglu.
“Rwy’n ymwybodol fod cwestiynau wedi cael eu gofyn am gyflwr ac oed y cerbydau gwastraff ac ailgylchu yn dilyn problem ddiweddar pan na wnaed rhai casgliadau, felly rwy’n hapus i egluro mai'r rheswm am hyn oedd oedi allanol yn y gwasanaeth cynnal arbenigol sydd ei angen ar bob cerbyd bob chwe wythnos, ac nid unrhyw ddiffygion ar y cerbydau eu hunain.
“Ar ddiwedd y cyfnod interim dwy flynedd, bydd angen sicrhau cerbydau casglu newydd cyn i wasanaeth gwastraff ac ailgylchu mwy hirdymor ddechrau, ac yn achos unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ffordd mae'r gwasanaeth yn gweithredu, gallaf sicrhau i drigolion y bydd ymgynghori cyhoeddus helaeth yn digwydd hefyd.
“Yn y cyfamser, mae Plan B Management Solutions Ltd yn paratoi i gyflenwi'r gwasanaeth interim yn barod ar gyfer 1 Ebrill 2024, a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y newid yn digwydd mor rhwydd a didrafferth â phosib.”