Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn addo darparu mwy o gefnogaeth i bobl sydd wedi bod mewn gofal

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i gryfhau ymhellach hawliau plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y system gofal.

Cyflwynwyd mesur yn galw ar iddynt gael nodweddion gwarchodedig gerbron cyfarfod mis Ebrill o'r Cyngor lawn gan y Dirprwy Arweinydd Jane Gebbie, a chytunwyd arno yn unfrydol.

O dan y mesur hwn, mae'r cyngor yn cydnabod sut mae pobl sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal yn wynebu rhwystrau sylweddol a all effeithio arnynt drwy gydol eu bywydau, a thra eu bod yn naturiol wydn, gallant hefyd fod yn wynebu gwahaniaethu a stigma mewn meysydd megis tai, iechyd, addysg, perthnasoedd, cyflogaeth ac o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Gyda chyfrifoldeb ar y cyd dros ddiogelu a'u darparu gyda'r gofal gorau posib, mae gan y cyngor hefyd rôl i'w chwarae yn mentora a bod yn bencampwyr plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, ac i herio agweddau negyddol ac unrhyw ragfarnau yn eu herbyn.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi ymrwymo i Siarter Rhianta Corfforaethol yng Nghymru, ac mae'r Pwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc yn Senedd Cymru yn flaenorol wedi argymell bod y profiad o fod mewn gofal yn dod yn nodwedd warchodedig o fewn deddfwriaeth y DU.

"Gyda Siarter Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes yn ei le, mae'r mesur hwn yn cryfhau ac yn gwarchod ein hymrwymiad presennol tuag at blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ac rwyf wrth fy modd o weld iddo dderbyn cefnogaeth trawsbleidiol unfrydol. - Cynghorydd Gebbie

Gan gefnogi'r mesur, ychwanegodd  y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio: "Rwy'n credu mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r ail awdurdod lleol yng Nghymru i gadarnhau ei gefnogaeth dros sefydlu nodweddion gwarchodedig ar gyfer pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a bod y gefnogaeth yma yn tyfu.

 

"Rwy'n gobeithio y bydd y mater pwysig hwn yn parhau i ennill tir yn genedlaethol, ac mai'r canlyniad yn y pen draw fydd i ddiwygiad gael ei wneud ar y Mesur Cydraddoldeb, fel y gellir profi'r effaith ar draws gymdeithas gyfan y DU."

 

Y mesur yn llawn: 

  • Bod y cyngor yn cydnabod bod pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn grŵp sy’n debygol o wynebu gwahaniaethu. 
  • Bod gan y cyngor ddyletswydd i sicrhau bod anghenion pobl dan anfantais yn gwbl ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau, drwy gyd-gynhyrchu a chydweithio.
  • Y dylai penderfyniadau, gwasanaethau a pholisïau sy’n cael eu llunio a’u mabwysiadu gan y cyngor gael eu hasesu drwy Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb er mwyn ystyried effaith newidiadau ar bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn ogystal ag unigolion eraill sydd yn rhannu nodwedd warchodedig yn swyddogol.
  • Bod y cyngor, wrth gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn cynnwys profiad o fod mewn gofal wrth gyhoeddi ac adolygu amcanion cydraddoldeb, ac wrth gyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol ynghylch pobl sydd â nodwedd warchodedig mewn gwasanaethau a chyflogaeth.
  • Galw ar bob corff arall yn swyddogol i drin y profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig, nes i hynny gael ei gyflwyno drwy ddeddfwriaeth.
  • Y dylai'r cyngor barhau i fynd ati i chwilio am leisiau pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a gwrando ar y lleisiau hynny wrth ddatblygu polisïau newydd sy’n seiliedig ar eu barn.

 

Gallwch ddysgu mwy a gweld recordiad o'r cyfarfod drwy ymweld â thudalen agenda'r Cyngor yn www.bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y