Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor a’r Gweilch yn cadarnhau trafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o adleoli i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gadarnhau bod trafodaethau ar y gweill gyda’r Gweilch ynglŷn â’r posibilrwydd y bydd y tîm yn adleoli i Gae Bragdy Dunraven o dymor 2025/26 ymlaen.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Gweilch gynlluniau i symud i stadiwm newydd, ac erbyn hyn maent wedi lleihau nifer y posibiliadau i Gae Bragdy Dunraven ym Mhen-y-bont ar Ogwr a St Helens yn Abertawe.

Byddai gweld y tîm yn symud i Ben-y-bont ar Ogwr yn rhoi hwb i economi’r ardal trwy gynnig llawer o fanteision cyffredin i’r Gweilch ac i’r fwrdeistref sirol yn ei chyfanrwydd.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn rhan o ranbarth y Gweilch ers 2004 ac mae’r dref wedi estyn croeso i’r tîm sawl gwaith, yn cynnwys ar gyfer yr ornest y tymor hwn yn erbyn Rygbi Caerdydd a’r fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn y Sale Sharks yng Nghwpan Her Ewrop.

Rydym yn gwbl gefnogol i gynlluniau posibl y Gweilch i symud i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal rhagor o drafodaethau wrth inni barhau i drafod yr holl fanteision a fyddai’n deillio o drefniant o’r fath, yn cynnwys hwb economaidd enfawr i’r holl ardal.

Byddai Cae Bragdy Dunraven yn cynnig cyfle unigryw i’r Gweilch eu lleoli eu hunain yng nghanol y dref. Hefyd, mae Pen-y-bont ar Ogwr mewn lleoliad perffaith ar goridor yr M4 ac mae gan y dref lawer o opsiynau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gyda gorsafoedd trenau a bysiau gerllaw.

Eisoes, mae gan y Gweilch lawer o gysylltiadau cymunedol trwy’r fwrdeistref sirol a gwych o beth yw bod cynifer o’r chwaraewyr presennol yn hanu o Ben-y-bont ar Ogwr a’u bod wedi cychwyn eu siwrnai rygbi trwy chwarae i’n timau lleol.

Yn ôl y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai:

Medd Lance Bradley, Prif Swyddog Gweithredol y Gweilch: “Pleser yw cael dweud ein bod wedi lleihau ein hopsiynau i ddau gae gwych, gyda’r ddau yn cynnig cyfleoedd unigryw. Ac rydym yn hyderus y bydd y naill ddewis neu’r llall yn gartref newydd cwbl addas i’r Gweilch.

“Pleser fu gweithio gyda Dinas a Sir Cyngor Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyrraedd y sefyllfa hon. Mae’r ddau gyngor wedi croesawu’r syniad ac wedi bod yn barod iawn i fodloni ein gofynion, ac maen nhw’n fodlon cydweithio i sicrhau y bydd ein stadiwm newydd yn stadiwm rygbi o’r radd flaenaf ac y bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd pellach i gyfoethogi’r gymuned leol.

“Edrychaf ymlaen at rannu ein hoff opsiwn gyda chi yn ystod yr wythnosau nesaf ac edrychaf ymlaen hefyd at weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor perthnasol i sicrhau y bydd ein cartref newydd yn hwb i’r gymuned.”

Bydd y Gweilch yn aros yn Stadiwm Abertawe.com ar gyfer tymor 24/25, gan ddefnyddio’r amser i fynd i’r afael â gwaith ailddatblygu cychwynnol er mwyn sicrhau y bydd y stadiwm a ddewisir yn addas i’r diben ar gyfer tymor 25/26.

Bydd rhagor o fanylion yn dilyn maes o law.

Chwilio A i Y