Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor a phartneriaid yn cadarnhau trefniadau’r Nadolig

Atgoffir preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y bydd newidiadau i rai gwasanaethau a gynigir gan y cyngor a’i bartneriaid dros y gwyliau Nadolig sydd i ddod.

Dyma fydd oriau agor y Gwasanaethau Cwsmeriaid a Swyddfeydd Dinesig:

  • Dydd Mawrth 24 Rhagfyr: 8.30am-4.30pm
  • Dydd Nadolig: Ar gau
  • Gŵyl San Steffan: Ar gau
  • Dydd Gwener 27 Rhagfyr: Ar gau
  • Dydd Llun 30 Rhagfyr: 8.30am-5pm
  • Dydd Mawrth 31 Rhagfyr: 8.30am-5pm
  • Dydd Mercher 1 Ionawr: Ar gau
  • Dydd Iau 2 Ionawr: 8.30am-5pm (Gweithredu yn ôl oriau arferol unwaith eto o’r dyddiad hwn)

Bydd gwasanaeth Fy Nghyfrif yn dal i fod ar gael dros gyfnod yr ŵyl, a gallwch ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o faterion yn cynnwys budd-daliadau tai, y dreth gyngor, priffyrdd, rheoli plâu, derbyniadau ysgol a mwy. Bydd cymorth brys y tu hwnt i oriau ar gael drwy Uned Cefnogi Cwsmeriaid a Chymunedau (CCSU).

Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn digwydd fel yr arfer ar ddydd Llun 23 Rhagfyr a dydd Mawrth 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig), ond ni fydd unrhyw gasgliadau ar ddydd Mercher 25 Rhagfyr (Diwrnod Nadolig) a dydd Iau 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan). Bydd yr holl gasgliadau ddeuddydd yn hwyrach na’r arfer o ddydd Gwener 27 Rhagfyr i ddydd Sul 29 Rhagfyr.

Ni fydd unrhyw gasgliadau ar ddydd Mercher 1 Ionawr 2025, ac o ganlyniad bydd yr holl gasgliadau ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer, hyd at ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2025.

Gall preswylwyr roi un bag gwastraff ychwanegol allan ar gyfer eu casgliad sbwriel cyntaf ar ôl Dydd Nadolig.

Bydd pob Canolfan Ailgylchu Gymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan ond ar agor fel yr arfer ar bob diwrnod arall. Mae modd ailgylchu coed Nadolig naturiol ym mhob canolfan ailgylchu gymunedol a gallwch fynd â nhw i Ddepo Waterton hefyd o 2 Ionawr. Sylwch, mae modd ailgylchu coed Nadolig naturiol ym mhob canolfan ailgylchu gymunedol a gallwch fynd â nhw i Ddepo Waterton hefyd o 2 Ionawr.

I bawb sydd eisiau talu teyrnged i anwyliaid, bydd tiroedd Amlosgfa Llangrallo, y Capel Coffa a’r Cloestr ar agor rhwng 10.30am a 4pm ar wyliau banc a dyddiau Sul. Ar bob diwrnod arall, bydd oriau agor arferol y gaeaf yn cael eu gweithredu (Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm) a (Dydd Gwener i ddydd Sadwrn, 9am i 4pm). Bydd y gatiau mynediad yn cael eu cloi 10 munud cyn yr amser cau.

Bydd y gatiau mynediad i gerbydau i fynwentydd lleol yn cael eu hagor ar ddydd Mawrth 24 Rhagfyr a byddant yn parhau ar agor tan ddydd Gwener 27 Rhagfyr. Ar gyfer y Flwyddyn Newydd, bydd y gatiau mynediad i gerbydau’n cael eu hagor unwaith eto ar ddydd Mawrth 31 Rhagfyr a’u cau ar ddydd Iau 2 Ionawr. Y tu allan i'r amseroedd hyn, bydd y gatiau mynediad i gerddwyr ar agor 24/7, fel drwy gydol y flwyddyn.

Mae Hamdden Halo hefyd wedi cyhoeddi eu horiau agor dros y Nadolig, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan. I gael gwybodaeth ar oriau agor y llyfrgell, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Chwilio A i Y