Y cyfle olaf i wneud cais am gyllid ‘hybiau cynnes’
Poster information
Posted on: Dydd Iau 09 Ionawr 2025
Mae tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), yn galw am y tro olaf am geisiadau ar gyfer y 'Cynllun Grant Hybiau Cynnes' a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae grantiau o £500 hyd at £2,000 ar gael i ganolfannau cymunedol, grwpiau, cyfleusterau, yn ogystal â mentrau nid er elw. Bwriad y cyllid yw cefnogi mannau cynnes hen a newydd, lle all pobl ddod ynghyd i gysylltu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r cyllid, trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chaiff ei weinyddu gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO).
Mae modd gwirio eich bod yn gymwys am grant ar wefan BAVO, lle y cewch hefyd ganllawiau ar gyfer cwblhau’r cais. Bydd angen i chi ymateb yn gyflym, oherwydd y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 14 Ionawr 2025.
Rydym yn falch o weld y cyllid y mae ei wir angen ar gyfer grwpiau cymunedol yn dychwelyd i ddarparu mannau cynnes, croesawgar ledled y fwrdeistref sirol yn ystod misoedd hir y gaeaf.
Mae unigrwydd yn effeithio ar lawer o bobl yn ein cymunedau lleol, yn ogystal â phwysau costau byw a chael mynediad at gymorth hanfodol.
Gall hybiau cynnes helpu i fynd i’r afael â hyn, a chynnig man diogel ble y gall pobl gael y cymorth a’r rhyngweithio sydd eu hangen arnynt. Hoffem ddiolch i’r rhai sydd eisoes yn darparu’r lleoedd hanfodol hyn yn ein cymunedau lleol, sy’n aml yn gweithredu fel achubiaeth ar gyfer unigolion a theuluoedd mewn angen.
Aelod Cabinet y cyngor dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai, y Cynghorydd Neelo Farr
Am fwy o fanylion ffoniwch BAVO ar 01656 810400 neu e-bostiwch: grantsadmin@bavo.org.uk