Y Cabinet yn pennu cynigion cyllidebol ar gyfer 2025-26
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025
Mae cynigion cyllidebol ar gyfer 2025-26 wedi cael eu datgelu gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i’r awdurdod lleol gytuno ar gam nesaf ei strategaeth ariannol tymor canolig.
Gan gynnwys cyllideb refeniw gros o £530m a chyllideb net o £383m, mae’r cynigion cyllidebol yn cynnwys cynnydd yn y dreth gyngor o 4.5 y cant, sy’n cyfateb i £1.59 yr wythnos ar gyfer eiddo Band D arferol.
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach heddiw (dydd Mawrth 14 Ionawr), clywodd aelodau o’r Cabinet er gwaetha’r ffaith eu bod yn derbyn setliad uwch na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae’r pwysau cyllidebol presennol yn golygu bod y cyngor yn parhau i wynebu dewisiadau anodd ynghyd â tharged arbedion o £9.1m er mwyn cydbwyso’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn.
Mae cynigion ar gyfer cyflawni’r arbedion hyn yn cynnwys dileu’r gwasanaeth Pryd ar Glud, torri arian cerdd ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr, trosglwyddo rheolaeth cyfleusterau cymunedol yn yr ysgol draw i ysgolion lleol, a chynyddu ffïoedd claddu a thaliadau gwastraff mawr. Mae rhai cynigion, megis peidio darparu tai gyda sachau ysbwriel wedi cael eu cytuno arnynt yn ystod gweithdrefn gosod cyllideb flaenorol.
Mae’r cynigion cyllidebol hefyd yn cynnwys buddsoddiadau cyfalaf megis £1.9m ar gyfer gwneud addasiadau i’r anabl i gartrefu pobl er mwyn eu galluogi i fyw yno, £1.1m am wneud mân waith cynnal a chadw bach ar adeiladau’r cyngor, £400,000 ar gyfer goleuadau stryd a seilwaith pontydd, £590,000 ar gyfer gwaith cyfalaf strwythurol a phrif ffyrdd, £200,000 ar gyfer datgarboneiddio a phrosiectau cymunedol, £100,000 ar gyfer adnewyddu tai a dod ag eiddo gwag yn ôl i gael eu defnyddio unwaith eto, a £400,000 ar gyfer seilwaith TGCh hanfodol.
Dyma ddechrau ar ein proses pennu cyllideb, a thrafodir ein cynigion fel rhan o’r broses graffu gan yr holl bleidiau cyn i aelodau gwrdd yn y Cyngor llawn ym mis Chwefror i gytuno ar beth fydd y gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus llawn, a bydd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi a’u hadrodd arnynt cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.
Er bod y rhagolwg ariannol sy’n wynebu’r llywodraeth ar gyfer 2024-26 yn eithaf llwm, mae ein cynigion cyllidebol wedi eu gwreiddio’n ddwfn mewn realiti, ac wedi’u cynllunio i fod yn rhai y gellir eu cyflawni, a’u bod hefyd yn gynaliadwy. Rydym yn parhau i orfod wynebu dod o hyd i arbedion o nifer o filiynau tra’n gwneud penderfyniadau anodd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Wedi cymaint o flynyddoedd o ddelio gyda gostyngiad mewn adnoddau a chael ein gorfodi i dorri dros £80m oddi ar gyllidebau’r cyngor eisoes, dyw hon ddim yn dasg hawdd, ond byddwn yn parhau i fod yn gadarnhaol, yn gydnerth ac yn barod i wynebu’r her.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor John Spanswick:
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad - Y Cynghorydd Hywel Williams: “Rydym wedi sicrhau bod ein cynigion cyllidebol yn amddiffyn ein buddsoddiad presennol mewn addysg, gwasanaethau ymyrryd cynnar, a gwasanaethau cymdeithasol a lles, a’u bod yn diogelu ein preswylwyr mwyaf bregus tra’n parhau i annog pobl a chymunedau i fod yn fwy hunangynhaliol.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf wedi datgelu, diolch i reolaeth ariannol gofalus ac arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, bod gorwariant rhagweladwy ar gyllideb y llynedd nawr wedi dod yn danwariant o oddeutu £6.7m.
“Yn yr un modd, er ein bod wedi gofyn i ysgolion bennu gostyngiadau cyllidebol sy’n dod yn gyfanswm o un y cant o’u cyllideb, byddant hefyd yn sicr o dderbyn arian ychwanegol ar draws amrywiaeth o gynnydd mewn cyflogau a chynnydd prisiau a ddylai gydbwyso unrhyw leihad yn ddiogel.
“Gall pob cynnig cyllidebol barhau i gael eu dylanwadu gan argymhellion a wneir yn rhan o’r broses graffu ac yn rhan o adborth yr ymgynghoriad cyhoeddus presennol, felly y mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn cymryd rhan a chael dweud eu dweud.
“Gallwch wneud hynny ac edrych ar gynigion y cyngor yn llawn drwy fynd draw i’r tudalennau ymgynghori yn www.bridgend.gov.uk, neu drwy godi copi papur o’ch llyfrgell leol.”
Bydd y Cabinet yn cwrdd i drafod craffu ac adborth yr ymgynghoriad ar gynigion y gyllideb ar 18 Chwefror. Yna bydd y cynigion cyllideb terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor ar 26 Chwefror er mwyn eu trafod yn derfynol a chytuno arnynt.