Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cabinet yn cytuno ar gynllun newydd ar gyfer dyfodol ei wasanaeth gwastraff ac ailgylchu

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i ddod a'i wasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn ôl yn fewnol ble bydd yn cael ei reoli gan yr awdurdod lleol.

Gan amlygu’r angen ar gyfer datblygu ‘monitro agosach, mwy ymarferol’ a ‘hyblygrwydd cynaliadwy’ yn y gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cwrdd ag anghenion a heriau yn y dyfodol, daeth aelodau’r Cabinet i benderfyniad yn dilyn ystyried sawl opsiwn gwahanol a ddatblygwyd gan arbenigwyr gwastraff, Eunomia, ynghyd ag adborth manwl gan y pwyllgor Craffu.

Roedd yr opsiynau hyn yn cynnwys sefydlu cwmni masnachu awdurdod lleol (LATCO) i redeg y gwasanaeth neu benodi contractwr, yn debyg i’r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd gyda Plan B Management Solutions, a fydd yn dod i ben 31 Mawrth 2026.

Wrth gynllunio ymlaen ar gyfer y dyfodol, hoffwn gydnabod y gwaith gwych sydd wedi mynd rhagddo wrth i Fwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr gael ei henwi nid yn unig yr ardal orau yng Nghymru am y ffordd yr ydym yn delio â gwastraff ac ailgylchu, ond y fwyaf gost effeithiol hefyd.

Gyda thargedau a gofynion newydd ar y gorwel, rwyf nawr am sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, ac y gallem chwarae rhan fwy yn ei reolaeth barhaus.

Rwyf hefyd am sicrhau bod y gwasanaeth wedi’i seilio’n fwy ar hyblygrwydd cynaliadwy fel ei fod yn gallu addasu a newid yn gyflym mewn ymateb i ba bynnag ofynion newydd fydd yn cael eu gosod arno.

Arweinydd y Cyngor John Spanswick

Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch i Eunomia am nodi’r opsiynau posibl ar gyfer sut gallai’r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu gael ei redeg yn y dyfodol, Plan B am eu cefnogaeth wrth ddarparu’r gwasanaeth, ac aelodau’r pwyllgor Craffu am eu cyfraniad.

“Credaf y byddai dod a’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol yn rhoi’r gallu i ni fonitro’n agosach, mynd i’r afael ag unrhyw faterion perfformiad neu heriau gweithredol mewn modd amserol, a rhoi cyfleoedd i ni ymateb i ymholiadau gan breswylwyr yn fwy effeithiol.

“Bydd hefyd yn ein galluogi i fod yn fwy hyblyg wrth ymateb i newidiadau strategol yn y dyfodol a allai fod eu hangen, yn enwedig ynghylch materion fel methodoleg casglu, technoleg newydd yn dod i’r amlwg a thargedau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

“Yn y pen draw, bydd y penderfyniad hwn yn ein cynorthwyo wrth feithrin mwy o reolaeth tra hefyd yn cryfhau gwytnwch y gwasanaeth pan ddaw i bwysau allanol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y cynlluniau’n mynd rhagddo.”

Bydd bwrdd trawsnewid yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r newid, a bydd swyddogion y cyngor yn ceisio trafod estyniad o’r cytundeb cyfredol gyda Plan B er mwyn osgoi unrhyw oedi neu broblemau posibl a allai godi yn sgil trosglwyddo’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol erbyn Ebrill 2026.

Chwilio A i Y