Y cabinet yn cymeradwyo Adroddiad Diogelu Corfforaethol blynyddol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024
Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr adroddiad Diogelu Corfforaethol 2023 - 2024, sy’n amlinellu’r ddarpariaeth ddiogelu eang a gynigir y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â sut mae oedolion a phlant bregus yn parhau i gael eu cefnogi ar draws bob cyfarwyddiaeth, gan gynnig dull ‘un cyngor’ i ddiogelu.
Gan ymdrin â nifer o agweddau allweddol o Ofal Cymdeithasol Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, i Dai, ac Addysg, mae’r adroddiad yn amlinellu sut mae trefniadau diogelu yn parhau i gael eu gwella a’u cryfhau, gyda modelau gweithredu gwell wedi’u rhoi ar waith ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Gwasanaeth Cymdeithasol Oedolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
O ganlyniad i atgyfeiriadau cynyddol ar gyfer oedolion sydd dan risg, ynghyd â Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, mae staff Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i dderbyn cefnogaeth, i sicrhau bod y llwyth gwaith cynyddol yn parhau i gael ei reoli’n dda ac o fewn targedau cydymffurfio.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl yn y gymuned yn gyfrifoldeb a rennir, ac mae’r cyngor yn croesawu ei gyfrifoldeb corfforaethol i warchod unigolion bregus rhag niwed, cam-driniaeth, ac esgeulustra.
“Er bod yr ystadegau yn yr adroddiad yn dangos cynnydd mewn atgyfeiriadau diogelu, mae’n rhoi sicrwydd bod y timau gofal cymdeithasol yn rheoli’r her ac yn parhau i wella gwasanaethau diogelu - rhywbeth a fydd yn parhau yn flaenoriaeth yn 2024-2025.
“Er gwaetha’r pwysau cyllidebol a brofir gan y cyngor ar hyn o bryd, bydd diogelu yn parhau i fod o flaenoriaeth o ran pwysigrwydd i’r awdurdod lleol, gan sicrhau ein hymdrechion gorau i warchod y rhai sydd fwyaf bregus ar draws y fwrdeistref sirol.”