Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

‘Wonder Woman’ Gwasanaethau Dydd Pen-y-bont ar Ogwr yn ymddeol

O oedran ifanc, mae Frances Childs wedi herio unrhyw gyfyngiadau rhagdybiedig y gall pobl eu rhoi ar rai ag anableddau dysgu – o ennill medal aur Olympaidd am nofio yn 24 oed, i ysgrifennu’r cofiant a gyhoeddwyd am ei bywyd! ‘A life less ordinary’ yw sut y byddech efallai’n disgrifio ei bywyd hyd yma.

Bu Frances yn gysylltiedig â Gwasanaethau Gofal Dydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers dros 47 o flynyddoedd, ac ymddeolodd ar Ebrill 14.   

Yn addas iawn, roedd y dyddiad yn cyd-fynd â dathliadau ledled pedwar hyb cymunedol y fwrdeistref sirol a’r brif Ganolfan Adnoddau, i nodi degawd ers ailfodelu Gwasanaethau Dydd y cyngor.

A hithau’n godwr arian brwd, cododd Frances dros £200 ar gyfer Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dilyn ei harhosiad yno wrth ymladd am ei bywyd gyda Covid-19, ym mis Mawrth 2020. Cymaint oedd ei gwerthfawrogiad am y gofal a dderbyniodd, roedd Frances eisiau mynegi ei diolch i’r ysbyty.

“Roedd y nyrsys wedi syrthio mewn cariad â hi”, meddai Catherine Hevizi, y Rheolwr Byw â Chymorth. “Roedd hi hefyd wedi cynhyrchu llyfr llafar am ei phrofiad o gael Covid-19 gydag anableddau dysgu, gyda’r nod o helpu eraill – fe aeth hwn yn fyw ar ap y GIG.”

“Mae Frances yn annibynnol iawn! Mae hi’n benderfynol a gall gyflawni unrhyw beth a fynnai.”

Cafodd Frances sylw ym mhenawdau’r newyddion lleol ym mis Mehefin 1981, pan enillodd y Fedal Aur am nofio 50m yng Ngemau Olympaidd Arbennig Gwlad Belg, gyda’i theulu o’i chwmpas - gan gynnwys ei thad, a ddysgodd hi i nofio’n chwech oed, yn y Pwll Cynffig.                

A hithau’n hen law ar deithio ledled y byd, gyda’i theulu’n bennaf, roedd Frances hyd yn oed wedi croesi’r Cyhydedd yn 1982, trwy ei chysylltiad â Chlybiau Gateway a drefnodd brosiect Trydydd Byd elusennol a leolwyd yn Affrica.           

Er ei bod wedi ymddeol o’r Gwasanaethau Dydd, nid oes gan Frances unrhyw fwriad i arafu yn y dyfodol agos. Diddordeb arbennig, yn ogystal â rhywbeth y mae’n dymuno ei ganlyn yn ystod ei hymddeoliad, yw cwblhau ei choeden deulu.

Bu Mark Hobbs, sef Swyddog Gwasanaethau Dydd blaenorol yng Ngwasanaethau Dydd Pen-y-bont ar Ogwr, yn gweithio’n agos â Frances, yn ei helpu i ganfod perthnasau pell trwy Genes Reunited. Dywedodd, “Dyna oedd ei phrif ddiddordeb pan oedd hi’n gweithio gyda mi, a f’un innau hefyd yn y diwedd.”

“Frances yw un o’r defnyddwyr TG y mae gen i feddwl ohoni fel ffrind. Rwy’n dal i’w cholli ac yn dymuno’r gorau iddi yn ei hymddeoliad.”

Ymhlith ei chynlluniau eraill at y dyfodol y mae ychwanegu at ei chasgliad o gymwysterau arlwyo, ynghyd â gwaith gwirfoddol, yn ogystal â gwylio tîm rygbi Cymru, a chael eu cyfarfod!  Mae hi wrthi hefyd yn ysgrifennu llyfr newydd…am ei bywyd daionus – fedrwn ni ddim disgwyl!

Mae Frances yn esiampl wych, sy’n ein hatgoffa o’n gallu gwirioneddol ddiderfyn – a dweud y gwir, yr unig gyfyngiadau sydd arnom ni yw’r rheiny yr ydym yn eu rhoi arnom ein hunain.

Allen ni ddim anwybyddu ymroddiad staff y Gwasanaethau Dydd, gyda’u hymdrechion dyddiol yn helpu eu pobl fregus i wireddu eu potensial. Fodd bynnag, ‘does dim dwywaith mai gwasanaeth sy’n elwa cymaint ag y mae’n ei roi yw hwn - wrth gefnogi ein defnyddwyr, rydym hefyd yn dysgu cymaint ganddyn nhw, ac mae hynny’n cyfoethogi ein bywydau ni hefyd.

Rydym ni eisiau dymuno’r gorau i Frances gyda’i chynlluniau at y dyfodol - nid oes unrhyw amheuaeth gennym ei bod am gyflawni bob un ohonyn nhw

Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y