Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trigolion yn cael gwahoddiad i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad ar derfyn cyflymder

O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder ar ffyrdd cenedlaethol yn gostwng o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Nod y newid yw lleihau anafiadau ar y ffyrdd, cynnig amgylchedd saffach i annog beicwyr a cherddwyr, yn ogystal â lleihau llygredd sŵn.

Mae'r cyngor wedi nodi rhai ffyrdd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr all barhau â’r terfyn cyflymder presennol o 30mya. Eithriadau fydd y ffyrdd hyn i gynllun 20mya Llywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i gael eich barn ar y ffyrdd yr ystyrir yn eithriadau. Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein yn cael ei gynnal a hyn o bryd, a gofynnir i chi rannu’ch barn.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau: “Mae’n bwysig iawn casglu adborth gan ein trigolion lleol, i sicrhau ein bod yn parhau i gydweithio ac yn alinio â’n cymunedau.

“Gall terfyn cyflymder ffyrdd cyfyngedig fod yn bwnc sensitif i bobl ac rydym eisiau sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fynegi eu teimladau.”

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor am dair wythnos, ac yn dod i ben ar 24 Ebrill 2023.

O ystyried nifer a maint y dogfennau hyn, yn cynnwys mapiau o'r eithriadau, byddant ar gael i’w gweld ar-lein, ewch i: https://beinvolvedbridgend.uk.engagementhq.com/20mph-speed-limit-consultation-2

Am ragor o wybodaeth ynghylch cynllun terfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru, ewch i’r wefan: https://www.llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya-cwestiynau-cyffredin

Chwilio A i Y