Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Timau’r Cyngor yn gweithio drwy gydol y penwythnos i frwydro yn erbyn llifogydd ledled y fwrdeistref

Mae staff y cyngor wedi bod yn gweithio drwy gydol y penwythnos diwethaf i ddosbarthu bagiau tywod, clirio cwteri a chafnau ac atal llifogydd helaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd timau allan rhwng 8pm a 4am ddydd Gwener 06 Medi a rhwng 5am a 8pm ddydd Sadwrn 07 Medi, yn ateb 50 o alwadau a dosbarthu bagiau tywod i eiddo yn Castle View, Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwiriwyd cafnau mewn sawl eiddo ac roeddent yn glir pan archwiliwyd nhw, a gweithredwyd yn gyflym i gynorthwyo eiddo yn Elm Crescent, Bryntirion, Greenfields Avenue Pen-y-bont ar Ogwr, Longacre Estate, Bracla, Oaklands Drive, Pen-y-bont ar Ogwr, Chestnut Way, Bryntirion a Hafan-y-Bryn, Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd llifogydd ar sawl ffordd, yn cynnwys cylchdro Stormy Down ar yr A48, Heol Porthcawl, De Corneli a’r A473 Bryntirion Hill. Cliriwyd cafnau oedd wedi cau, ac mae ardaloedd penodol dan ymchwiliad pellach gan dîm Draenio Tir y Cyngor.

Mae’r llifogydd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dangos ymrwymiad y cyngor i weithio’n ddiflino i sicrhau diogelwch trigolion a diogelwch ein ffyrdd.

Mae ein tîm wedi mynd i’r afael â chanlyniad y glaw trwm ac archwilio rhwydwaith y ceuffosydd a hoffwn ddiolch o galon iddynt am eu hymdrechion diwyd a gwych yn cadw trigolion yn ddiogel.

Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y