Tîm Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor â rôl hollbwysig mewn dal troseddwr cyffuriau
Poster information
Posted on: Dydd Iau 29 Chwefror 2024
Yn ddiweddar, llwyddodd gwaith tîm Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyfrannu at ddal troseddwr cyffuriau ar ôl i un o’r gweithredwyr sylwi ar ymddygiad amheus ar stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y cyngor ar waith drwy’r dydd, bob dydd, er mwyn ceisio atal a chanfod troseddu, adnabod troseddwyr ar gyfer eu harestio a’u herlyn a lleihau ofnau’n ymwneud â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Yn ystod yr oriau mân ddydd Sadwrn 28 Hydref, gwelodd un o’r gweithredwyr Teledu Cylch Cyfyng gar Skoda arian yn cael ei yrru gan Joshua Allegretto, 31 oed. Stopiodd y gyrrwr y car yn Highland Place, Pen-y-bont ar Ogwr, agorodd y bonet a thynnodd gan diaroglydd Lynx o dan yr hidlwr aer.
Gwelir Joshua Allegretto yn tynnu eitemau o’r can Lynx ac yn eistedd yn ôl yn sedd y gyrrwr. Yna, daw dau unigolyn anhysbys at y car. Maent yn rhoi tâl i Allegretto trwy ddefnyddio cerdyn banc ac yna cânt fag sy’n cynnwys powdwr gwyn.
Aeth swyddogion yr Heddlu ar drywydd y car y noson honno a chafodd Allegretto ei ddal er mwyn cynnal chwiliad. Daethpwyd o hyd i 28 o fagiau cocên yn y can Lynx a oedd ynghudd o dan y bonet.
Mae ein tîm Teledu Cylch Cyfyng yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru i gadw ein trigolion yn ddiogel. Mae hyn yn dangos bod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn gwella a chynnal lefelau diogelwch yn ein cymunedau lleol.
Hoffwn ddiolch i aelodau ein tîm Teledu Cylch Cyfyng am eu harbenigedd o ran sylwi bod rhywbeth amheus ar droed ar ein strydoedd, ac am roi gwybod i Heddlu De Cymru yn ddi-oed er mwyn iddyn nhw allu cymryd y camau priodol.
Lleolir camerâu mewn gwahanol leoedd drwy’r fwrdeistref sirol, ac yn aml mae darnau o ffilm teledu cylch cyfyng yn rhan werthfawr o’r broses casglu tystiolaeth mewn sawl achos.
Yn ôl y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol:
Mae’r Ditectif Arolygydd Ian Jones o Heddlu De Cymru hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd teledu cylch cyfyng o ran dod â throseddwyr o flaen y llys. Meddai: “Mae ymddygiad digywilydd Joshua Allegretto yn yr achos hwn yn dangos bod delwyr cyffuriau’n credu y gallant weithredu’n agored ac yn anghyfreithlon yn ein cymunedau. Byddwn yn parhau i fynd i’r afael â chyflenwadau cyffuriau anghyfreithlon a byddwn yn dal ati i fynd ar drywydd y rhai sy’n cyflawni troseddau.”
Cafodd Allegretto ei arestio a’i gyhuddo o fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau dosbarth A a reolir. Plediodd yn euog mewn treial yn Llys y Goron Caerdydd, ac ers hynny mae wedi’i ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar.