Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Talebau digidol yr haf ar gyfer disgyblion ysgol cymwys

Bydd teuluoedd â phlant sy’n gymwys i dderbyn prydau bwyd am ddim ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn tair taleb ddigidol ar wahân yn fuan ar gyfer gwyliau’r haf. 

Cyfnod gwyliau’r haf

Dyddiad cyhoeddi (rhwng)

Wythnosau 1 a 2

Dydd Mercher 6 Gorffennaf i ddydd Gwener 8 Gorffennaf 2022

Wythnosau 3 a 4

Dydd Mercher 13 Gorffennaf i ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2022

Wythnosau 5 a 6

Dydd Mercher 20 Gorffennaf i ddydd Gwener 22 Gorffennaf 2022

 

Bydd bob taleb gwerth £39 yn cwmpasu cyfnod o bythefnos ac yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at deuluoedd cyn diwedd y tymor dros e-bost neu neges destun.

Gallwch gyfnewid y daleb yn unrhyw allfa 'PayPoint', sydd yn aml wedi’u lleoli mewn siopau lleol, archfarchnadoedd mawr a gorsafoedd petrol.

Bydd y talebau’n ddilys hyd at 1 Medi 2022 er mwyn galluogi rhieni i’w cyfnewid ar adegau sydd fwyaf cyfleus iddynt dros gyfnod gwyliau’r haf.

Bydd rhieni sy'n gymwys yn derbyn talebau e-bost gan no-reply@paypointsvp.com a bydd talebau neges testun yn cael eu hanfon gan ‘Cash Out’.

Mae gan PayPoint dros 28,000 o leoliadau ar hyd a lled y DU ac fel rheol fe’i lleolir mewn siopau lleol, siopau bwyd, archfarchnadoedd a gorsafoedd petrol.

Gall rhieni a gofalwyr ddod o hyd i'r Pay Point agosaf drwy ddilyn y ddolen isod: https://consumer.paypoint.com/

Dylai rhieni/gofalwyr gyflwyno cod bar y daleb yn eu PayPoint agosaf ble bydd yn cael ei gyfnewid am y swm perthnasol sydd i'w ddefnyddio ar gyfer bwyd a diod i'ch plentyn yn unig.  Byddwch yn ymwybodol na all manwerthwyr McColls gyfnewid talebau ar hyn o bryd.

Gofynnir i rieni a gofalwyr gadw llygad ar eu negeseuon e-bost sbam/sothach ac os na fyddant wedi derbyn taleb drwy e-bost neu neges destun erbyn dydd Gwener bob wythnos, dylent anfon e-bost at: FSMCOVID19@bridgend.gov.uk gan ddarparu manylion llawn eu plentyn/plant a'u hysgol fel bod modd ymchwilio i hyn.

Mae’n dda gwybod y bydd y talebau digidol prydau ysgol am ddim ar gael ar gyfer disgyblion cymwys drwy gydol gwyliau’r haf.

Mae'n dda gweld hefyd bod y talebau’n cynnig hyblygrwydd i deuluoedd gan ei bod yn bosib eu cyfnewid mewn nifer o siopau ledled y fwrdeistref sirol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell

Atgoffir rhieni a gofalwyr bod talebau’n cael eu hanfon mewn llwythi, ac nid yw’n anghyffredin i blant yn yr un cartref dderbyn eu talebau ar wahanol adegau.

Chwilio A i Y