Swydd Wag ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y cyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg
Poster information
Posted on: Dydd Iau 07 Medi 2023
Hysbyseb i Aelod Cyfetholedig Annibynnol ymuno â Chyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.
Mae Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn awyddus i benodi trigolyn brwdfrydig ac ymrwymedig o ardal awdurdod lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymuno â’r Pwyllgor fel Aelod cyfetholedig annibynnol wedi'i benodi’n gyhoeddus o fis Awst 2023 i fis Mai 2027.
Mae Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg newydd ei gyfuno wedi disodli’r 3 Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ar wahân Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gosod dyletswyddau llesiant ar gyrff cyhoeddus penodol, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, gwasanaethau tân ac achub a Chyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ar y cyd drwy Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus, y mae gofyn iddynt:
- asesu cyflwr llesiant diwylliannol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd eu hardal (yr Asesiad Llesiant);
- defnyddio'r asesiad hwnnw i osod amcanion llesiant lleol (y Cynllun Llesiant);
- gweithredu ar y cyd i fodloni’r amcanion hynny.
Bydd y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu (y Pwyllgor) yn craffu ar y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus newydd hyd at 4 gwaith y flwyddyn a gyda ffocws penodol fel ymgynghorai statudol ar gyfer yr Asesiad Llesiant, Cynllun Asesiad a’r Adroddiad Llesiant Blynyddol.
Bydd y Pwyllgor yn cynnwys PUM Aelod Etholedig ac UN cynrychiolydd Dinesydd o bob un o’r tri awdurdod lleol yn ei ardal (Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr a Rhondda Cynon Taf), yn ogystal ag aelodau cyfetholedig nad ydynt yn weithredol o’r sefydliadau partner statudol eraill, e.e. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a Chyfoeth Naturiol Cymru. Disgwylir y bydd y Pwyllgor yn cwrdd yn hybrid mewn lleoliad canolog / o bell dros Zoom a bydd yr holl Aelodau’n derbyn hyfforddiant ar ôl cael eu penodi.
Cofrestrwch ddiddordeb
I fynegi diddordeb yn y swydd hon, ebostiwch scrutiny@bridgend.gov.uk yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda chopi o’ch CV ynghyd â pharagraff byr yn manylu pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd a beth allwch chi ei gynnig iddi. Nid oes cyflog ynghlwm â’r rôl, fodd bynnag, gellir ad-dalu treuliau rhesymol.
Dyddiad cau: 13 Medi 2023, 5pm.
Bydd cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cynnal o bell dros Microsoft Teams ar ddyddiad i’w gadarnhau.