Stryd yn Nantyffyllon i'w mabwysiadu gan y cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023
Bydd stryd heb ei mabwysiadu yn Nantyffyllon yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont gyda gwaith i ddechrau yn fuan i'w chodi i'r safon ofynnol.
Bydd Maes-y-dderwen yn gweld cyrbau a phalmentydd yn cael eu hailosod, a godo wyneb newydd ar y ffordd hefyd.
Mae'r ffordd bengaead yn un o filoedd o strydoedd ar draws Cymru a Lloegr nad yw awdurdodau priffyrdd wedi'u mabwysiadu na'u cynnal a'u cadw ac, o'r herwydd, preswylwyr a pherchnogion eiddo oedd yn gyfan gwbl gyfrifol am ei chynnal.
Mae’r cynllun £20,000 hwn yn rhan o raglen ehangach gyda gwaith yn parhau i adolygu perchnogaeth ffyrdd eraill sydd heb eu mabwysiadu yn y fwrdeistref sirol, a sefydlu’r uwchraddiad sydd ei angen i ddod â nhw i safon y gellir eu mabwysiadu.
Er y bydd peth aflonyddwch i drigolion Maes-y-dderwen wrth i ni weithio ar y gwelliannau, byddwn yn gwneud pob ymdrech i’w gadw i’r lleiafswm.
Wrth ddod â’r stryd i fyny i safon y gall y cyngor ei mabwysiadu, bydd wedyn yn elwa o waith cynnal a chadw rheolaidd yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr