Staff y cyngor yn gweithredu’n gyflym drwy gydol Storm Henk
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 05 Ionawr 2024
Wrth i Storm Henk daro rhannau helaeth o’r Deyrnas Unedig yr wythnos hon, gweithiodd tîm Priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiflino i sicrhau bod pob ffordd yn parhau i fod yn ddiogel ac yn rhydd rhag malurion.
Ymatebodd y criwiau i adroddiadau o goed wedi cwympo mewn gwahanol leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol a gwnaethpwyd trefniadau yn gyflym i gael gwared ar unrhyw falurion.
Yn ogystal, bu oddeutu 85 achos o lifogydd a bu criwiau’n cadw llygad ar ddraeniau/ceuffosydd, a'u clirio, i leihau’r risg o unrhyw amharu neu ddifrod.
Rhoddwyd bagiau tywod i chwe eiddo. Ni chafwyd unrhyw achos o lifogydd y tu mewn i adeiladau.
Ymddengys mai Porthcawl, y Pîl a Chorneli a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y storm, ond cafwyd nifer o adroddiadau o ardaloedd fel Maesteg a Phencoed.
Anfonwyd pwmp i brif gylchfannau’r A48 rhwng Trelales a’r Pîl lle gwelwyd llifogydd sylweddol oherwydd dŵr glaw ffo o gaeau cyfagos. Yn ogystal, bu Swyddogion Draenio Tir mewn sawl lleoliad drwy gydol yr wythnos.
Hoffwn ddiolch i’n tîm priffyrdd am weithio bob awr unwaith eto i amddiffyn ein bwrdeistref sirol, a hynny dan amgylchiadau anodd. Mae diogelwch yn hollbwysig ac o ganlyniad i'w hymroddiad a’u harbenigedd, mae’n bleser gen i gyhoeddi na adroddwyd unrhyw ddigwyddiadau sylweddol.
Yn anffodus, mae stormydd fel hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin ond mae’r tîm Priffyrdd yn sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer tywydd eithafol a’u bod yn paratoi yn y ffordd orau bosibl i leihau’r risg o unrhyw amharu.
Hoffwn hefyd ddiolch i’n tîm casglu sbwriel sydd wedi bod yn clirio malurion a sbwriel a oedd wedi chwythu o gwmpas y strydoedd o ganlyniad i'r tywydd gwael hwn.
Dywedodd y Cyng. John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:
Atgoffir preswylwyr y gallant adrodd unrhyw broblemau yn ymwneud â stormydd drwy ein gwasanaeth ‘Fy Nghyfrif’ digidol.
Ewch i wefan y cyngor am ragor o wybodaeth ynghylch paratoi am dywydd y gaeaf.