Siop ailddefnyddio y Pîl yn agored i fusnes yn swyddogol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 28 Awst 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Plan B Management Solutions a’r elusen gymunedol Groundwork Wales, wedi agor y siop ailddefnyddio newydd yng Nghanolfan Ailgylchu Cymunedol y Pîl yn swyddogol.
Cafodd y siop, sydd wedi bod yn masnachu ers mis Mai eleni, ei hagor yn swyddogol gan aelodau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys ei Arweinydd, y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd a’r aelodau ward lleol, y Cynghorydd Huw David a’r Cynghorydd Jane Gebbie (Dirprwy Arweinydd).
Gall trigolion naill ai gyfrannu neu brynu eitemau mewn cyflwr da, er enghraifft dodrefn tai a nwyddau trydanol a fyddai’n mynd i dirlenwi fel arall. Yn ogystal, mae'r holl elw o werthu eitemau yn cefnogi Groundworks Wales, sy’n cefnogi gweithredu ymarferol i greu dyfodol teg a gwyrdd lle gall pobl, lleoedd a natur ffynnu.
Mae’r siop ar agor ar ddyddiau Llun, Mercher, Iau a Sadwrn rhwng 9am a 3pm, ac mae’n dilyn ail-agoriad llwyddiannus siop ailddefnyddio The Sidings yng nghanolfan ailgylchu cymunedol Maesteg, sydd wedi bod yn cael ei rhedeg gan Groundwork Wales ers dros flwyddyn. Gellir gweld amseroedd agor ar gyfer the Sidings, a chanolfannau ailgylchu cymunedol yn ein bwrdeistref sirol, ar ein gwefan.
Rwyf mor falch fod ail siop ailddefnyddio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn agored i fusnes. Mae ailagoriad llwyddiannus The Sidings yng nghanolfan ailgylchu cymunedol Maesteg y llynedd wedi profi bod galw mawr am eitemau y gellir eu hailddefnyddio, gyda channoedd o eitemau yn cael eu cyfrannu a’u hailgylchu.
Rwy’n sicr y bydd agoriad y siop ailddefnyddio newydd yng nghanolfan ailgylchu cymunedol y Pîl yr un mor llwyddiannus ac yn ein helpu fel cymuned i leihau’r angen am dirlenwi yn y fwrdeistref sirol, gan fod o fudd i’r amgylchedd ond hefyd i elusennau lleol a chyllidebau cartrefi, gan fod trigolion yn sicr o allu cael bargen.
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw un o’r tri awdurdod lleol gorau am ailgylchu ac yn sicr gall mentrau fel hyn ein cadw’n gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, Y Cynghorydd Paul Davies
Dywedodd Katy Stevenson, Prif Swyddog Gweithredol Groundwork Wales, ‘Yr Adfywiad dodrefn, ein menter gymdeithasol ailgylchu ac ailddefnyddio dodrefn yw un o weithrediadau mwyaf sefydlog Cymru ers tro, ac mae ein Rheolwr Manwerthu ac Ailddefnyddio, Byron James wedi mynd â’r fenter o nerth i nerth.
Mae’n destun cyffro i ni fod yn gweithio gyda Plan B a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddod â’r gwasanaeth hwn i bobl Pen-y-bont ar Ogwr.
Gyda’r argyfwng costau byw cyfredol, mae hwn yn gynnig gwych i gefnogi gydag eitemau fforddiadwy i’r cartref, ond hefyd i dynnu eitemau o dirlenwi, ac rydym hefyd wedi creu un swydd lawn amser eleni. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r cyfleoedd hyn.’
Gallwch ddysgu mwy am ailgylchu a gwastraff ar wefan y cyngor.