Siop ail ddefnyddio Maesteg ar agor unwaith eto
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 30 Awst 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda’i bartneriaid Kier ac elusen seiliedig ar y gymuned, Groundwork, i adfer siop ail ddefnyddio The Sliding yng nghanolfan Ailgylchu Maesteg, Heol Tŷ Gwyn.
Ers agor yn 2020, mae’r siop ail ddefnyddio wedi ailgylchu cannoedd o eitemau, yn cynnwys unrhyw beth o feiciau i sgwteri i lyfrau a DVDs, seinyddion, gemau, a chrochenwaith.
Mae Groundwork, sy’n canolbwyntio ar adeiladu cymunedau cynaliadwy, wedi cymryd yr awenau i redeg y siop ail ddefnyddio, sydd ar agor ddwywaith yr wythnos ar hyn o bryd, ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 9am a 3pm.
Dywedodd Byron James, Rheolwr Manwerthu ac Ailddefnyddio Groundwork Caerffili: Rydym yn gyffrous iawn yn partneru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Kier i ail agor y siop The Siding yng Nghanolfan Ailgylchu Maesteg. Rydym yn frwdfrydig ynghylch atal gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi, gan gydnabod bod llawer o ddodrefn tŷ ac eitemau trydan yn gallu cael eu hail ddefnyddio at sawl pwrpas newydd.
“Rydym wedi casglu 23 mlynedd o brofiad yn darparu ein menter gymdeithasol bresennol, gan ganolbwyntio ar fentrau ail ddefnyddio ac ailgylchu, mewn perthynas ag awdurdodau lleol. Byddwn yn parhau i fynd i’r afael â thlodi drwy ddarparu’r hawl i ddodrefn ac eitemau trydan fforddiadwy, wrth gynorthwyo dilyniant cymunedau hefyd drwy ddarparu hwb gwirfoddoli i hwyluso hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i hybu cyflogadwyedd a sgiliau.”
Rydym wrth ein bodd bod y siop ail ddefnyddio wedi ail agor ar gyfer busnes ym Maesteg. Mae'n enghraifft wych o gynaladwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol - nid yn unig ein bod yn gallu rhoi cartref newydd i gannoedd o eitemau bob mis yn hytrach na thrip untro i safle tir lenwi, gallwn gynnig yr hawl i gasgliad o fargeinion o ansawdd ar gyfer y cartref a’r ardd i bobl leol, sydd o gymorth i liniaru ychydig ar gyllidebau cartref yn yr argyfwng costau byw presennol.
Mae’r siop untro’n cynnig y cyfle i roi neu brynu a chynorthwyo’r economi ail ddefnyddio, sydd o fudd i elusen leol ac yn ffordd hawdd i ddeiliaid tai leihau eu hallyriadau carbon a helpu’r amgylchedd.
Rydym yn falch bod gan ein bwrdeistref sirol y gyfradd uchaf ond un o ran ailgylchu yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i ddatblygu mentrau fel hyn i symud ymlaen gyda’n hymrwymiad i gyflawni sero net erbyn 2030.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch ailgylchu a gwastraff ar ein gwefan, ynghyd â gwybodaeth am ein Strategaeth Sero Net Carbon Pen-y-bont ar Ogwr 2030.