Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sector tai'r Cyngor yn cael cefnogaeth gan godiad grant Llywodraeth Cymru

Yn dilyn cynnydd yn y Grant Cymorth Tai (HSG) gan Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 i 2025, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo addasu contractau'r darparwyr cymorth tai i gyd-fynd â'r newid.

Mae'r sector cymorth tai ar hyd a lled Cymru wedi elwa o gynnydd gwerth £13m, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael codiad o £600k gan Lywodraeth Cymru (LlC). Nod y cyllid ychwanegol yw mynd i'r afael â phwysau taliadau darparwyr a gomisiynir ledled y sector, a fyddai felly'n cyflawni ymrwymiad ehangach LlC i Waith Teg a'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Mae'r cyllid hwn yn helpu i gyflawni rhaglen ymyrraeth gynnar, i gefnogi gweithredoedd sy'n atal pobl rhag dod yn ddigartref, sefydlogi eu sefyllfa dai, neu'n helpu pobl a all fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw.

Ers cael ei hysbysu am y codiad cyllid gan LlC, mae'r Cyngor wedi cysylltu â'r holl ddarparwyr a gomisiynir a gefnogir gan yr HSG i bennu eu sefyllfa ariannol bresennol; gan sicrhau bod gan bob un ohonynt gyllid digonol, a bod y contractau mewn sefyllfa gref.

Mae'r rhai y canfuwyd iddynt fod wedi'u cyllido'n annigonol wedi derbyn cymorth drwy eithafu bob ffrwd ariannu, ailstrwythuro timau staff, neu drwy'r codiad HSG gyda chymeradwyaeth y Cabinet neu drwy Gynllun Dirprwyo'r cyngor.

Mae hon yn weithred gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru.

Gyda phwysau tai ar ei uchaf erioed, ni ellid bod wedi cynnig y codiad HSG ar adeg mwy amserol.

Bydd y swm helaeth o grant a ddyrannwyd yn cael effaith gadarnhaol ar y gwaith o fynd i'r afael â'r heriau ariannol presennol a brofir gan y sector cymorth tai ac yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cefnogi.

Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai

Chwilio A i Y