Sam Warburton, cyn-gapten rygbi Cymru, yn cynorthwyo Ysgol Gyfun Bryntirion i oleuo’r llwybr ar gyfer dyfodol y disgyblion
Poster information
Posted on: Dydd Iau 01 Chwefror 2024
Mae Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith (CWRE) yn siapio’r cwricwlwm yn Ysgol Gyfun Bryntirion, gan gynnig amrywiaeth eang o brofiadau dysgu dilys sy’n canolbwyntio ar feithrin sgiliau trawsgwricwlaidd. Mae un prosiect gyrfaoedd, yn arbennig, wedi cael cymorth gan Sam Warburton, cyn-gapten Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon.
Mae prosiect CWRE yr ysgol, sef Her Buddugoliaeth i Felindre, a gefnogir gan CBAC a Chanolfan Ganser Felindre, Caerdydd, wedi herio disgyblion Blwyddyn 9 yr ysgol i ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd i gynorthwyo elusen Ganser Felindre.
Mewn sesiynau yn null Dragons’ Den, bu’n rhaid i’r dysgwyr gyflwyno’u syniadau gerbron cyflogwyr. Cafodd rhai timau a gymerodd ran yn y rowndiau rhagbrofol eu dewis ar gyfer rownd derfynol yr ysgol – a Sam Warburton, un o noddwyr Felindre a chyn-gapten Cymru, oedd un o’r beirniaid.
Yn ôl Lillia, disgybl Blwyddyn 10: “Wrth gystadlu yn sesiwn Dragons’ Den, dysgais sut i ddelio â straen dan bwysau, ac rydw i’n teimlo bod y profiad wedi rhoi hwb i’m hyder.”
Medd Evie, disgybl arall ym Mlwyddyn 10: “Gweithiais gyda Felindre i gwblhau’r Her Menter a Chyflogadwyedd a Dragons’ Den – rydw i’n teimlo fy mod wedi cael cyflwyniad da i’r byd go iawn a sut i edrych ar bethau o safbwynt busnes.”
Medd Ryan Herbert, Pennaeth Busnes yn yr ysgol: “Mae her Felindre wedi bod o fudd mawr i’r disgyblion trwy feithrin sgiliau fel gweithio mewn tîm, datrys problemau a chreadigrwydd. Mae’n gwneud hyn trwy gynnig profiadau o’r byd go iawn, gan annog y myfyrwyr i ddefnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol mewn senarios ymarferol, a chan eu paratoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r ysgol.”
Mae’r ysgol yn ymfalchïo mewn creu cysylltiadau cryf â diwydiannau penodol a’r sector elusennau, gyda CWRE mewn cof. Yn ystod dau brosiect CWRE arall, crëwyd cysylltiadau â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Invacare, Pen-coed.
Wrth gydweithio â Sain Ffagan, bu modd i’r dysgwyr archwilio’r gwahanol yrfaoedd sy’n gysylltiedig ag ailadeiladu adeiladau hanesyddol, a hefyd cynigiwyd cyd-destun dilys i ddangos pa mor bwysig yw astudio Hanes.
Mae’r adran Dechnoleg wedi creu cysylltiad ag Invacare, Pen-coed – sef cwmni blaenllaw sy’n gweithgynhyrchu, yn dosbarthu ac yn cyflenwi cynhyrchion sy’n cynorthwyo pobl gyda gofal iechyd yn y cartref ac yn eu helpu i symud o gwmpas. Yn y prosiect peilot newydd ar gyfer Blwyddyn 8, caiff y disgyblion gyfle i ddylunio a chreu cyfres o brototeipiau, ac yna bydd staff Invacare yn eu beirniadu.
Medd Ravi Pawar, Pennaeth yr ysgol: “Mae’r rhaglen CWRE wrth galon a chraidd cwricwlwm ein hysgol. Rydym yn ceisio meithrin sgiliau hollbwysig a hanfodol y disgyblion trwy eu cynnwys mewn cyd-destunau dilys perthnasol a gwerth chweil. Mae amrywiaeth y gweithgareddau’n helpu i baratoi’r disgyblion trwy gynnig y sgiliau y byddan nhw eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith.”
Gwych o beth yw gweld bod disgyblion Ysgol Gyfun Bryntirion yn dilyn cwricwlwm mor ystyrlon a chyfoethog, sy’n caniatáu iddyn nhw ddirnad gwerth eu hastudiaethau yng nghyd-destun y byd ehangach.
Mae’r rhaglen CWRE yn hogi sgiliau’r dysgwyr, gan eu paratoi ar gyfer byd y tu allan i’r ysgol. Cyfle anhygoel, yn wir!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg