Saltlake Seafood Co. yn creu argraff fawr ar ddiwylliant bwyd Porthcawl!
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Medi 2023
Agorodd Saltlake Seafood Co. y mis diwethaf, ac mae’n un o blith pump o fusnesau annibynnol, lleol a fydd yn gweithredu mewn lleoliad gwych yn Cosy Corner, Porthcawl – sef ardal sydd newydd ei datblygu.
Mae’r cam cyntaf yn natblygiad Cosy Corner, sy’n werth £3.8m, newydd gael ei gwblhau. Bu modd bwrw ymlaen â’r datblygiad yn sgil arian a gafwyd gan y cyngor a chan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys £1m o arian yr UE gan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru.
Mae’r bwyty – a leolir yn yr adeilad newydd cerrig a gwydr, lle ceir golygfeydd dros y sianel – yn ehangu’r dewis o fwytai da a geir yn yr ardal, a hefyd mae’n cynnig gwaith i’r gymuned leol. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithwyr yn byw yn yr ardal a gallant gerdded neu feicio i’w gwaith – rhywbeth sy’n fanteisiol i’r amgylchedd ac i lesiant y staff.
Pan glywais fy mod wedi cael swydd goruchwylydd yn Saltlake Seafood Co., roeddwn i wrth fy modd! Mae’n lle mor braf i weithio ynddo, ac mae’r lleoliad yn wych! Mae yna ddigon o bethau’n digwydd yn yr ardal ac rydw i’n cael cyfle i gyfarfod â chynifer o wynebau newydd bob dydd. Mae gen i daith gerdded fer yn ôl a blaen i’r gwaith – ac mae hynny’n gweddu’n berffaith imi. Rydw i’n edrych ymlaen at groesawu pawb!
Catrin Earl, un o drigolion Porthcawl a goruchwylydd yn y bwyty
Ym marn Kate Booth, y perchennog, mae’n bosibl y bydd y bwyty yn denu mwy o bobl a diddordeb i ardal yr harbwr. Mae Kate yn tynnu sylw at rai o nodweddion y busnes:
Mae’r lleoliad wedi’i gynllunio er mwyn cael golygfeydd o’r dwyrain i’r gorllewin, lle gall ein cwsmeriaid fwynhau gwylio’r haul yn codi neu’n machlud.
Mae ein bwydlen yn cynnwys dewis a phrisiau eang, yn cynnwys bwyd môr ffres a bagelau tecawê. Rydym yn gweini brecwast o 9am, neu o hanner dydd gallwch gael platiau mawr o bysgod a phrydau arbennig wythnosol. Hefyd, mae gennym ddiodydd poeth ac oer, sudd oren ffres a diodydd alcoholig.Gobeithio y bydd pob un o’n cwsmeriaid yn mwynhau cysyniad Saltlake Seafood Co. ac yn teimlo ei fod yn ategu busnesau a chynigion eraill yng nghyffiniau Marina Porthcawl.
Kate Booth, y perchennog
Mae Saltlake Seafood Co. yn cynnig gwaith i’r ardal, busnes annibynnol sy’n benodol i’r ardal ac, wrth gwrs, bwyd o’r radd flaenaf – heb anghofio’r addewid y bydd ymwelwyr a thrigolion yr ardal fel ei gilydd yn cael amser gwych!
Mae Whocult Doughnuts, un o gymdogion y bwyty, yn fusnes arall sy’n gweithredu yn un o’r pum uned fasnachol yn Cosy Corner. Ar hyn o bryd mae Harbwr Deli, y trydydd tenant, yn paratoi’r safle ar gyfer ei agor. Nid yw’r trefniadau ar gyfer y ddwy uned a erys wedi’u cadarnhau eto.
Byddwn yn parhau i gynnig cymorth priodol i fusnesau Cosy Corner, yn cynnwys helpu i recriwtio a hyfforddi staff gyda chymorth tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr. Oherwydd y cyfleoedd a’r potensial sy’n perthyn i ddatblygiad Cosy Corner, rydym ynghanol cyfnod cyffrous yn hanes Porthcawl.
Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Llesiant