Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Risg diogelwch bwyd yn arwain at adalw cynnyrch ar frys

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhybuddio pobl ynglŷn ag ystod o eitemau a gynhyrchir gan Bread Spread Ltd, sydd wedi’u canfod yn anniogel i’w bwyta.

Mae'r rhybudd yn cynnwys bwydydd oer a bwydydd parod i’w bwyta dan enwau brand Bread Spread, Orbital Foods a Perfect Bite.

Yn amrywio o bageti, ffyn Ffrengig, a brechdanau i roliau, wrapiau a saladau pasta, mae gan yr holl gynnyrch sydd wedi’u heffeithio ddyddiad terfyn (ac yn cynnwys) 20 Mai 2024.

Credir bod y cynnyrch heintiedig wedi cael cyswllt â bacteria pathogenig o’r enw Listeria Monocytogenes a all achosi twymyn, poenau cyhyrau, cyfog, chwydu a dolur rhydd. Mewn achosion prin, gall hefyd achosi cymhlethdodau mwy difrifol fel llid yr ymennydd.

Mae’n hysbys fod y cynnyrch wedi cael eu cyflenwi i fusnesau bwyd ledled y DU, gan gynnwys sefydliadau arlwyo a siopau cornel.

Mae’r cynnyrch wrthi’n cael ei adalw ar frys a gellir gweld rhestr lawn o’r eitemau sydd dan sylw ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Chwilio A i Y