Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rhuban Gwyn 'Ras dros Newid' - dros ddyfodol gwell

Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru wedi dod ynghyd i gynnal ras hwyl 5k i'r teulu o'r enw 'Ras dros Newid: Rhoi Diwedd ar y Trais', gyda chefnogaeth Canolfan Ffitrwydd Raw Performance.  Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu ar gyfer 30 Tachwedd, ar Gaeau Trecelyn. Pen-y-bont ar Ogwr, mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o'r Rhuban Gwyn ac arian i gefnogi Assia.

Elusen Rhuban Gwyn yw prif elusen y DU sy'n annog dynion a bechgyn i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae dynion sy'n gwisgo'r rhuban gwyn er mwyn cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn, ar 25 Tachwedd, yn datgan na fyddent fyth yn cyflawni trosedd yn erbyn merched, nac yn esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn merched.

Meddai Arolygydd Plismona Lleol Pen-y-bont ar Ogwr,  Gareth Newman: "Mae mynd i'r afael gyda thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn dangos ein cefnogaeth i'r Rhuban Gwyn.

"Nod y ras hwyl yma yw dod â'r gymuned at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth ac i ganolbwyntio ar sut allwn ni hyrwyddo newid.  Mae digwyddiadau fel hwn yn amlygu problemau cam-drin yn y cartref a thrais teuluol.

"Mae gan bawb ohonom ran i'w chwarae er mwyn atal trais o ddydd i ddydd yn y cartref."

Meddai'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai: "Am ffordd wych i Wasanaeth Cam-drin Domestig Assia a Heddlu De Cymru hyrwyddo'r Rhuban Gwyn a chodi arian ar gyfer Assia.

"Mae Assia yn cynnig gwasanaeth heb ei ail drwy gydol y flwyddyn, gyda thîm cyfeillgar a phrofiadol yn cynnig ystod o gymorth, gan gynnwys cyngor, arweiniad a noddfa i unigolion sy'n dioddef trais yn y cartref.

“Rydym yn falch iawn bod Assia yn wasanaeth SaveLives Leading Lights achrededig.  Mae hwn yn ddangosydd sicrwydd ansawdd ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig sy'n cael ei gydnabod ar draws y DU, gan sicrhau bod teuluoedd lleol yn derbyn y ddarpariaeth a'r gefnogaeth orau posib.

"Bydd y diwrnod hwyl i deuluoedd yn sicr o fod yn fore allan gwych, ac rydym wir yn gobeithio y bydd pobl yn dod draw i gefnogi."

Mae'r digwyddiad, sy'n gyfeillgar i deuluoedd yn dechrau gyda chofrestru am 9.30am; gydathocynnau'n £5 i oedolion, £2.50 i blant a £10 i deuluoedd.

Ewch i'r wefan am ragor o wybodaeth, ac i gofrestru. Os oes gennych chi ddiddordeb, cofiwch gofrestru erbyn 18 Tachwedd.

Chwilio A i Y