Rhannwch lawenydd yr ŵyl y Nadolig hwn drwy gefnogi’r Apêl Siôn Corn
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 03 Tachwedd 2023
Mae pobl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cais i helpu i roi gwên ar wyneb plentyn neu berson ifanc bregus y Nadolig hwn drwy gyfrannu at Apêl Siôn Corn eleni.
Unwaith eto mae adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r apêl flynyddol am deganau ac anrhegion i’r rhai na fyddent o bosibl yn cael anrheg ar ddydd Nadolig fel arall.
Ffefrir cyfraniadau arian parod er mwyn prynu anrhegion addas i blant a phobl ifanc rhwng genedigaeth a 21 mlwydd oed.
Mae gwneud cyfraniad yn broses syml, gallwch roi ar-lein ar dudalen Just Giving Awen neu gall ein partneriaid mewn canolfannau ac ar safleoedd pwll nofio Halo Leisure hefyd dderbyn arian parod a chyfraniadau drwy gerdyn wrth eu tiliau.
Pe byddai’n well gennych gyfrannu gydag anrheg, dewch â’ch anrheg yn newydd os gwelwch yn dda. Ni ddylid lapio’r anrheg a rhaid ei gollwng yn y mannau gollwng canlynol mewn bag rhodd:
- Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr
- Llyfrgell Abercynffig
- Llyfrgell Betws
- Llyfrgell Maesteg
- Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
- Llyfrgell Pencoed
- Llyfrgell Porthcawl
- Llyfrgell/ Canolfan Fywyd y Pîl
- Llyfrgell Sarn
Gellir gweld oriau agor y llyfrgell ar wefan Awen.
Unwaith eto bydd gwirfoddolwyr yn rhannu’r anrhegion i’w grwpiau oedran addas ac yn eu lapio yn barod i gael eu dosbarthu i gartrefi plant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.
Y dyddiad cau ar gyfer yr Apêl Siôn Corn yw Dydd Llun 4 Rhagfyr 2023.
Mae’r Nadolig yn gyfnod bendigedig i’r mwyafrif ohonom, serch hynny mae nifer o blant a phobl ifanc yn wynebu deffro ar fore dydd Nadolig heb anrheg i’w hagor o gwbl.
Gofynnwn yn garedig i chi roi cyfraniad bach neu ychwanegu anrheg ychwanegol at eich rhestr siopa eleni, er mwyn rhoi gwên ar wyneb rhywun ifanc dros gyfnod y Nadolig.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie