Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi bod o fudd i lawer o fusnesau a phreswylwyr ledled y fwrdeistref sirol

Mae’r fenter newydd, Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr, eisoes yn helpu llawer o fusnesau a phreswylwyr lleol ar ôl cael ei lansio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gynharach eleni. 

Mae’r cynllun yn cefnogi rhai sy’n chwilio am gyflogaeth drwy gynnig lleoliadau gwaith â thal, a gynhelir gan gyflogwyr o bob cwr o’r fwrdeistref sirol. 

Mae’r fenter newydd yn seiliedig ar yr hen gynllun Kickstart, a oedd yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu swyddi ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed a oedd ar Gredyd Cynhwysol.  Fodd bynnag, mae Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr yn agored i bobl dros 16 oed sy’n chwilio am waith.

Mae Challoch Energy yn un o’r busnesau sydd eisoes wedi manteisio ar y cynllun hwn. Dywedodd eu Rheolwr Gyfarwyddwr Simon Minett: ”Mae'r broses gyfan yn rhwydd iawn, a gwnaeth hynny ein caniatáu i ddod o hyd i ymgeisydd ardderchog ar gyfer y rôl Cynorthwyydd Prosiect, sef Jessie Edwards.

Buaswn yn sicr yn argymell QuickStart i gyflogwyr eraill ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’r cynllun yn cyd-fynd yn dda â’n hathroniaeth recriwtio teg.

Ychwanegodd Jessie: “Roedd yn syndod i mi mor gyflym a rhwydd oedd y broses gynefino. Mae pawb rwy’n gweithio gyda nhw yn Challoch yn anhygoel ac rwyf wedi ymgartrefu’n dda iawn. Roeddwn yn chwilio ers cryn amser am gyfle swydd, felly bachais ar y cyfle hwn pan gododd.”

Stori lwyddiant arall o’r cynllun hyd yma yw Tîm Cynllun Mentora a Mwy The Bridge, sydd wedi cynnig cyfle i Krisztina Vida fel Cynorthwyydd Caffi. Dywedodd cynrychiolydd o The Bridge: “Mae Krisztina wedi cael effaith gadarnhaol ar ein tîm yn yr wythnosau diwethaf. Rydym wedi cael adborth gwych gan ddefnyddwyr gwasanaeth a staff. 

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am swydd drwy Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr gysylltu â thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.  Gall cyflogwyr gofrestru eu diddordeb yn y cynllun drwy ymweld â gwefan y cyngor, lle mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd hefyd ar gael.

Mae helpu preswylwyr i gyflawni eu potensial gan greu cyfleoedd swyddi o safon uchel ar yr un pryd yn rhan allweddol o’n cynllun corfforaethol, ac mae’n braf iawn gweld bod y cynllun hwn yn cyd-fynd, nid yn unig â’n blaenoriaethau ni, ond hefyd â blaenoriaethau busnesau ar hyd a lled y fwrdeistref sirol.

Mae'n amlwg fod y cynllun arloesol hwn eisoes yn cael effaith sylweddol, ac nid yw’n rhy hwyr i hyd yn oed mwy o gyflogwyr ddangos diddordeb.”

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai:

Mae Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael £900,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Cynhelir y cynllun mewn partneriaeth â DWP a Whitehead Ross.  

Chwilio A i Y