Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prydau Ysgol am Ddim i Blant Ysgolion Cynradd yn cael ei ehangu i ddisgyblion Blwyddyn 5

O 3 Mehefin, bydd disgyblion blwyddyn 5 ar hyd a lled y fwrdeistref sirol yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim, wrth i’r fenter Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd (UDSM) barhau i gael ei gweithredu.

Yn wreiddiol, y cynnig oedd y byddai disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn gymwys o fis Medi 2024 ymlaen.  Fodd bynnag, golyga’r gwaith caled gan y gwasanaeth arlwyo y bydd y cynllun ar gael yn gynt ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 5 a bydd yn dechrau yn dilyn gwyliau hanner tymor y Sulgwyn. 

Fel y cynlluniwyd, bydd y ddarpariaeth ar gael i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi, pan fydd holl blant ysgolion cynradd yn gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim.

Cafodd y fenter ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i gynorthwyo teuluoedd i leihau baich yr argyfwng costau byw ac mae bron i 11,000 o ddisgyblion mewn ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn awr yn gallu cael cinio ysgol am ddim.

Mae’n brofiad gwerth chweil gweld y fenter bwysig hon yn cael ei rhoi ar waith ar draws y fwrdeistref sirol gyfan. Mae prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn darparu cymorth ariannol sylweddol i deuluoedd, tra ar yr un pryd yn cynnig prydau maethlon i blant sy’n eu galluogi i ganolbwyntio ar ddysgu.

Unwaith eto, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i staff arlwyo ac ysgolion am eu cefnogaeth barhaus, yn ogystal ag am eu gwaith caled yn darparu’r gwasanaeth hanfodol hwn.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Does dim gofyn i rieni a gofalwyr lenwi ffurflen gais, gan y bydd pob dysgwr cymwys yn cael budd yn awtomatig o’r cynnig hwn.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn recriwtio ar gyfer staff gwasanaeth arlwyo er mwyn cefnogir cynllun cinio ysgol am ddim.  Ewch i wefan y cyngor am ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwaith cyfredol.

Chwilio A i Y