Prosiectau cymunedol yn derbyn £61,000 o gyllid Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned
Poster information
Posted on: Dydd Llun 11 Tachwedd 2024
Yn dilyn ystyriaeth ofalus gan banel yn cynnwys Aelodau o Gabinet a swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae disgwyl i gymunedau ar hyd y fwrdeistref sirol elwa o ail rownd cyllid Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned i gefnogi prosiectau arfaethedig.
Caeodd ceisiadau ar gyfer Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned 2024 - 2025 ddiwedd mis Awst, gydag wyth o gynghorau cymunedol yn ceisio am gymorth ar gyfer cynlluniau penodol.
Blaenoriaethwyd ceisiadau gyda chysylltiad uniongyrchol â chynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) y cyngor, ac yn unol ag agenda datgarboneiddio Sero Net 2030 y cyngor. Yn ychwanegol, ar gyfer ail rownd y cyllid hwn, roedd y prosiectau arfaethedig a ffafrwyd yn cydfynd â’r saith o flaenoriaethau corfforaethol sydd gan y cyngor, sy’n amrywio o feithrin Bwrdeistref Sirol gyda chymunedau’r cymoedd yn ffynnu, i Fwrdeistref Sirol sy’n helpu pobl i gyflawni hyd at eithaf eu gallu.
Mae cyllid wedi cael ei gymeradwyo i gefnogi mentrau ym Mhorthcawl, Y Pîl, Coety, Cwm Garw, Llansanffraid-ar-Ogwr a Chefn Cribwr. Mae cynlluniau yn amrywio o osod cyrbau is a goleuo llwybrau cerdded, i adnewyddu cyrtiau tennis. Mae’n bosib i ymgeiswyr a oedd yn aflwyddiannus ar yr achlysur hwn dderbyn cymorth a chyngor yn barod ar gyfer unrhyw fidiau eraill i’r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn ddiolchgar ein bod yn gallu cefnogi ein cymunedau drwy Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned.
“Bydd y cynlluniau arfaethedig yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol nodedig i breswylwyr ar draws y fwrdeistref sirol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiectau yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf.”