Prosiect Ysgol Gynradd Bro Ogwr yn paratoi’r ffordd ar gyfer y dyfodol!
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 14 Gorffennaf 2023
Cafodd prosiect gwnïo pontio’r cenedlaethau i uwchgylchu hen ddillad ei ddylunio a’i gynnal gan ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 o Ysgol Gynradd Bro Ogwr, y dilyn cyfres o wersi ynghylch sut y mae gweithredoedd heddiw yn effeithio ar y dyfodol.
Dywedodd Nandika, disgybl oedd yn rhan o’r fenter: “Dysgodd [y gwersi] ni am bwysigrwydd ail ddefnyddio hen ddillad, a faint o ddillad sy’n cael eu gwastraffu bob blwyddyn. Penderfynwyd gwneud rhywbeth yn ei gylch, a rhannu’r neges am ail ddefnyddio dillad.”
Gan ofyn am help y grŵp crefft yng Nghanolfan Bywyd Bro Ogwr, Halo i roi pwrpas newydd i hen ddillad, dysgodd disgyblion nifer o sgiliau gan y gwirfoddolwyr crefft. Dysgwyd nid yn unig sut i wnïo ond sut i gyfathrebu gyda phobl o wahanol grwpiau oed, yn ogystal â datblygu eu sgiliau trefnu.
Bu i’r disgyblion reoli’r fenter o’r dechrau i’r diwedd, yn cynnwys y sioe ffasiwn i gloi. Gan arddangos eu gwaith eu hunain, roeddent yn goruchwylio pob manylyn - o gynhyrchu dillad i greu tocynnau ar gyfer y sioe.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Della Hughes, am y prosiect: “Yr uchafbwynt i mi oedd gweld y disgyblion yn dysgu sgiliau newydd dan arweiniad y grŵp crefft lleol, oedd yn eu galluogi i roi pwrpas newydd i’r dillad eu hunain. Dyna beth yw pwrpas cymuned.”
Dywedodd Alaya, disgybl oedd yn rhan o’r fenter: “Dysgais sut i wnïo drwy weithio gyda grŵp Crefft Halo. Roeddent yn hyfryd, ac roedd yn brofiad llawn hwyl!”
Dywedodd dysgwr arall, Uma: “Roedd yna gyfathrebu da rhwng pawb - roedd pawb yn cydweithio er mwyn cyflawni.”
Roedd y prosiect, oedd yn hyrwyddo’r buddion hysbys o gydweithio rhwng cenedlaethau, nid y unig yn helpu i ddatblygu sgiliau a gwerthoedd y disgyblion, ond yn darparu manteision i’r gwirfoddolwyr crefft hefyd. Dywedodd Doreen, un o’r crefftwyr: “Mae bod yn rhan o’r prosiect wedi bod yn wych! Roedd cael gweld y plant bob wythnos a gallu pasio sgiliau newydd, ymarferol ymlaen iddynt yn werth chweil! Roedd yn gwneud i mi deimlo’n dda!
“Roeddwn wrth fy modd yn gweld eu hwynebau a gweld cymaint o ddiddordeb oedd ganddynt a pha mor hapus a balch oeddynt yn cael dysgu sgiliau gwnïo gennym! Roeddem ar dân i’w gweld bob dydd Mawrth!”
Da iawn wir i bawb oedd ynghlwm â’r prosiect hwn.
Nid yn unig bod y fenter wedi bod yn hanfodol yn dysgu’r plant am eu pŵer yn siapio’r dyfodol, ond hefyd ynghylch parchu’r sgiliau y gallant eu dysgu gan y genhedlaeth hŷn i’w helpu gyda hyn - yn annog empathi, goddefgarwch a synnwyr o gymuned.
Llongyfarchiadau i bawb! Rwy’n hynod o falch!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg