Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prosiect graffiti calonogol yn ysbrydoli’r gymuned!

Mae gwaith celf diweddar yn lliwio’r tanlwybrau ym Mracla a Heol Merthyr Mawr, mewn ymgais i ysbrydoli a chodi calon y gymuned leol.

Nod y prosiect, sy’n rhan o Ymgyrch Cyflyniad Negeseuon Cadarnhaol, yw disodli celf erosol gelyniaethus ac atgas gyda mynegiadau cadarnhaol, croesawgar a chalonogol sy’n adlewyrchu cynhesrwydd go iawn y gymuned.

Mae’r ‘Ymgyrch Negeseuon Cadarnhaol’ yn defnyddio allfeydd i gryfhau’r synnwyr o hunaniaeth cymuned. Wrth gyfnewid symbolau a negeseuon atgas gyda negeseuon o obaith, cymorth a phositifrwydd, rydym yn adlewyrchu pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr go iawn.

Lara Rowlands, y Swyddog Cyflyniad Cymunedol Rhanbarthol

’Gobaith’ yw’r thema sydd wedi ei dewis gan Gylch Ysgrifenwyr Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y tanlwybr yn Heol Merthyr Mawr.  Mae artistiaid o Another Day Another Spray a THEW Creative wedi defnyddio eu talentau artistig i greu delweddu anhygoel ar y safle, yn ogystal ag ar danlwybr Bracla.

Am olygfa i’w chael! Mae’r delweddau’n cael effaith uniongyrchol at drigolion, gan drawsnewid yr amgylchedd llwm posibl yn un lliwgar, bywiog sy’n denu!

Mae hwn yn brosiect mor ysbrydoledig a gwerthfawr, sy’n ganlyniad i gydweithio agos rhwng Tîm Cyflyniad Cymunedol Bae'r Gorllewin a Thîm Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r gelf sydd nawr yn diffinio’r amgylcheddau hynny’n drawsnewidiol - ac yn cynhyrchu gobaith a phosibilrwydd o fewn y gymuned.

Bydd paent gwrth graffiti yn cael ei daenu ar holl gelf stryd y prosiect, gan sicrhau na fydd ein hethos cymunedol cadarnhaol, cryf yn cael ei ddifetha.

Da iawn i bawb oedd yn gysylltiedig - dylech fod yn falch iawn o’r hyn yr ydych wedi ei gyflawni ar y cyd!

Cynghorydd Neelo Farr, y Gweinidog Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y