Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prosiect bioamrywiaeth cyffrous i wella gofod cymunedol ym meysydd chwarae Llangrallo.

Mae cynlluniau i greu gofod cymunedol newydd a chynefin bywyd gwyllt ym meysydd chwarae Llangrallo ar waith fel rhan o ffocws y cyngor ar wella bioamrywiaeth ar draws y fwrdeistref sirol.

Bydd y prosiect, sy'n cael ei ariannu gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, yn gwella cyrion y gofod cae presennol ac yn creu cynefin newydd drwy blannu coed, a blodau gwyllt a chreu ardal wlyptir.

Bydd y gwlyptir yn cael ei greu drwy gyfeirio dŵr arwyneb presennol o'r meysydd chwarae i bwll arafu, fydd nid yn unig yn gwella cyflwr y maes chwarae canolog sy'n weddill ond hefyd yn darparu cynefin gwerthfawr i amrywiaeth o rywogaethau, megis peillwyr, ystlumod a mamaliaid bychain.

Bydd y meysydd chwarae presennol yn parhau yn ardal ganolog o'r gofod cymunedol newydd ar gyfer gweithgareddau chwaraeon megis pêl-droed a rhedeg, ochr yn ochr ag ardaloedd hamdden eraill a darparu ardal ddysgu awyr agored newydd.

Fel rhan o'r fenter, bydd rhagor o ofodau cymunedol a gofodau cynefin yn cael eu creu ym Mharc Chwarae Tondu a Men's Shed Caerau.

Rwyf wrth fy modd ein bod, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, yn gallu dod â byd natur i stepen eich drws, a chyflwyno mwy o brosiectau bioamrywiaeth bywiog ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae gwneud byd natur yn hygyrch i bob aelod o'r gymuned nid yn unig yn cynnig buddion mawr i iechyd meddwl a lles preswylwyr, ond y mae hefyd yn dysgu pwysigrwydd creu cynefin diogel ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau.

Hoffwn sicrhau preswylwyr bod gan Gyngor Cymuned Llangrallo Isaf, fel rhan o'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol, gynlluniau cyffrous ar gyfer y meysydd chwarae a chreu cynefin a fydd yn sicr o wella'r gofod presennol. Bydd ardaloedd hamdden yn parhau i fod ar gael ar gyfer mynd â chŵn am dro a gweithgareddau eraill, a gall y maes chwarae barhau i gynnal gweithgareddau chwaraeon megis pêl droed a rhedeg.

Yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, Y Cynghorydd Paul Davies.

I ddysgu mwy am brosiectau bioamrywiaeth presennol y cyngor, ewch i'n gwefan.

Chwilio A i Y