Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prif weithredwr i gamu lawr o’i rôl yn y cyngor

Mark Shephard, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Ar ôl chwe blynedd fel Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Mark Shephard wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu camu i lawr o’r rôl ac ymddeol yn 2025.

Cyn derbyn y rôl ym mis Mai 2019, gwasanaethodd Mark fel prif weithredwr dros dro y cyngor. Cyn hynny, fe dreuliodd 30 mlynedd yn ymgymryd â rolau llywodraeth leol cynyddol uwch, y mwyaf diweddar oedd gweithredu fel Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau.

Erbyn mis Mai 2025, byddaf wedi treulio mwy na chwe blynedd wrth lyw’r awdurdod, a bron i bedwar degawd yn gweithio mewn llywodraethau lleol, yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont yr Ogwr a’i ragflaenydd, Cyngor Bwrdeistref Ogwr.

Yn ystod yr amser hwn a gyda chymorth medrus y cyfarwyddwyr, uwch swyddogion a gweithwyr eraill, mae wedi bod yn fraint cynorthwyo i lywio ac arwain y sefydliad, nid yn unig yn ystod sawl her amlwg, ond hefyd drwy ddarpariaeth ddyddiol o wasanaethau hanfodol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Er nad wyf yn credu bod un rheswm yn unig dros ddewis yr amser gorau i ymddeol, mae nawr yn teimlo fel yr amser iawn i drosglwyddo’r awenau, ac i gamu yn ôl i dreulio mwy o amser gyda fy nheulu, sydd wedi bod yn gymorth anferthol i mi yn ystod fy ngyrfa. Mae’n annhebygol bod y broses o benodi prif weithredwr newydd am gychwyn cyn y Flwyddyn Newydd. Rwyf wedi cytuno i gynllunio fy niwrnod gweithio olaf yn y cyngor o gwmpas hyn, i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gallu recriwtio’r ymgeisydd gorau posib, ac i greu trosglwyddiad di-dor.

Mark Shephard, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y