Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Preswylydd lleol yn arwain ymateb creadigol y gymuned i graffiti gwrthgymdeithasol

Mae graffiti gwrthgymdeithasol a fu’n dominyddu’r danffordd yn Ffordd Mawdlam, Gogledd Corneli wedi cael ei orchuddio a’i waredu gan gymuned sy’n sefyll yn gadarn i ddod â harddwch a heddwch yn ôl i’r ardal, gyda’r cam cyntaf wedi’i gyflwyno gan breswylydd lleol, Denise Heryet.

Wedi syrffedu ar weld harddwch y danffordd wedi’i ddifrodi a’r teimlad anniddig o fynd yno, penderfynodd Denise ddefnyddio’r lludw o’r tân a dannwyd yno i greu murlun wedi’i ysbrydoli gan straeon arallfydol, gan orchuddio iaith a lluniau annymunol. Arweiniodd ei gweithredoedd at effaith drwy’r gymuned gyfan, gyda mwy o bobl yn ymuno â hi ar y diwrnod canlynol i harddu’r lle ac i waredu’r graffiti annymunol gyda lluniau deniadol.

Meddai Denise: “Roeddwn i wedi cael digon ar edrych ar yr hyn a oedd yn dechrau edrych yn ardal ffiaidd. Mae’n gallu bod mor brydferth yno, yn enwedig pan mae gweision y neidr a’r gloÿnnod byw o gwmpas. Mae wedi rhoi ymdeimlad gwirioneddol o lonyddwch a thawelwch i mi.  Roedd y preswylwyr lleol yn colli cyfle i fwynhau’r harddwch a’r byd natur gan eu bod yn teimlo’n ofnus i fynd yno - dim ond ni fel cerddwyr cŵn mynych fyddai’n mynd yno!   

“Roeddwn i eisiau i drigolion lleol deimlo’n hapus wrth gerdded yn yr ardal, ac nid i gael eu dychryn gan y graffiti bygythiol. Roeddwn i eisiau i bobl gael mwynhad wrth gerdded ar hyd yr afon, a mwynhau’r fflora a’r ffawna – mae’n lle eithaf hudolus, ac yn gwneud i chi ymlacio a theimlo tawelwch.

“Rwy’n credu bod ein gwaith ar y cyd wedi agor llygaid pobl i’r ffaith bod y gallu gennym ni fel preswylwyr i ofalu am ein hardal - nid cyfrifoldeb asiantaethau allanol yn unig yw hynny. Gallwn weithredu ac ymfalchïo yn ein hardal, gan greu cyfeillgarwch ac atgyfnerthu ein cymuned ar yr un pryd!”  

Dywedodd Max, sy’n un ar ddeg oed ac a fu’n rhan o’r gwaith o drawsnewid y danffordd: “Rydw i’n falch o fod yn rhan o wneud y lle yn well. Diolch i’r lluniau sydd wedi cael eu peintio dros y graffiti, bydd yr ardal yn lle llawer neisiach a hapusach i fyw."

Ychwanegodd Summer, sydd hefyd yn un ar ddeg oed: “Roedd hi’n braf iawn i ddod at ein gilydd gyda phobl eraill, i fod yn greadigol ac i greu rhywbeth gyda’n gilydd. Roedd rhywfaint o annibendod, ond roedd yn gymaint o hwyl. Roedd hi’n braf gallu cerdded i ffwrdd ar ôl treulio diwrnod yn gwneud i rywbeth edrych well nag yr oedd o’r blaen. Rwy’n gobeithio bod y gymuned yn ei hoffi hefyd.”

Mae tîm Gwella Mannau Gwyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu cefnogi Denise yn ei hymdrechion i waredu’r graffiti annymunol trwy gynnig lluniau a fydd yn cael eu dangos yn yr ardal yn barhaol. Gan weithio gydag artistiaid graffiti proffesiynol o ‘Another Day, Another Spray’ a ‘Thew Creative’, bwriad y cyngor yw defnyddio bioamrywiaeth gyfoethog yr ardal i ysbrydoli gwaith celf parhaol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Am weithred cwbl ysbrydoledig a phwerus!  Hoffwn ddiolch i Denise am gymryd y cam cyntaf i fynd i’r afael â’r lluniau gwrthgymdeithasol yn y danffordd mewn ffordd mor gynnil ond pwerus; am ymateb i bethau mor negyddol a hyll gyda phositifrwydd ac urddas.

“Rydym ni’n fwy na pharod i gefnogi Denise i wella’r ymdeimlad o ddiogelwch yn yr ardal trwy gynnig lluniau mwy parhaus a deniadol i gael eu dangos yn y danffordd trwy waith ‘Another Day, Another Spray’ a ‘Thew Creative’.

“Mae gweithred ddewr, greadigol a chraff Denise wedi galluogi eraill i ddod ynghyd i wneud yr un fath.  Mae’r ymgyrch heddychlon a chydweithredol hwn yn erbyn ymddygiad annerbyniol yn dangos yr hyn sy’n gallu digwydd pan fo cymunedau’n dod at ei gilydd - rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli pob un ohonom i wneud yr un fath.”

  

Chwilio A i Y