Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Preswylydd hynaf Tŷ Cwm Ogwr yn datgelu gorffennol adeg y rhyfel

Gyda'i phen blwydd yn 100 ar y gorwel, mae Margaret Rees, preswylydd yn Nhŷ Cwm Ogwr yng Nghwm Ogwr, yn myfyrio ar ei gorffennol lliwgar ac atgofion gwerthfawr o weini fel cogydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1940, yn 16 oed yn unig, gadawodd Margaret Rees ei chartref yn Llangynwyd, Maesteg, ac ymuno â'r fyddin gan ychwanegu dwy flynedd at ei hoed, mewn ymgais i osgoi gweithio yn y ffatri arfau leol, oedd yn arlliwio gwalltiau gweithwyr yn felyn medda hi.

Yn dilyn hyfforddiant cychwynnol, daeth y laslances Margaret yn gogydd Corfflu Arlwyo'r Llu Awyr Brenhinol, wedi ei lleoli mewn amrywiol feysydd awyr.  Fodd bynnag, heb yn wybod i Margaret ar y pryd, wrth weithio ym maes awyr Scampton, roedd yn gweini brecwast a the yn rheolaidd i'r Dam Busters adnabyddus - y sgwadron oedd yn gyfrifol am ‘Operation Chastise’, y cyrch ar dri argae yn nyffryn Ruhr, perfeddwlad ddiwydiannol yr Almaen ym mis Mai 1943.

Pan ddatgelwyd ymdrechion cyfrinachol y Dam Busters, trefnwyd ymweliad gan y Brenin George VI, y Frenhines a'r Fam Frenhines i ddathlu'r sgwadron yn Scampton, oedd yn golygu bod Margaret wedi cwrdd â phob un a gweini te iddynt!

Mae Margaret yn cofio bod yn agos iawn at farwolaeth yn ystod y rhyfel.  Ar un achlysur, bu i 'gelwydd golau' achub ei bywyd.  Wrth geisio osgoi cynlluniau i ymweld â Lerpwl i fynd i ddawns, dywedodd Margaret wrth ei ffrindiau ei bod yn teimlo'n sâl a phenderfynodd aros gartref.  Y noson honno, targedodd cyrch awyr y neuadd ddawns ac, yn anffodus, fe laddwyd nifer o'i ffrindiau. 

Dro arall, dywedodd Margaret am awyren ryfel o'r Almaen yn taro'r maes awyr wrth iddi gerdded i'w gwaith.  Yn ffodus, bu i weithredoedd cyflym a hael awyrennwr cyfagos, arbed ei bywyd wrth iddo ei rholio i lawr llethr gwair i osgoi'r awyren.  Lladdwyd nifer o bobl y diwrnod hwnnw, ond roedd Margaret yn un o'r rhai lwcus a oroesodd.

Pan ddychwelodd Margaret adref o'r rhyfel, wynebodd anghymeradwyaeth ei mam am iddi redeg i ffwrdd i'r Llu Awyr Brenhinol.  Mewn gwirionedd, bu i ddicter ei mam olygu bod Margaret wedi methu derbyn ei medalau rhyfel yn ystod ei blwyddyn gyntaf gartref - medalau a dderbyniodd ar ei phen blwydd yn 90 oed gan y maer, diolch i'w theulu sy'n cynnwys 11 ŵyr ac wyres, 22 gor-ŵyr a gor-wyres a thri gor, gor ŵyr a gor, gor wyres!

Wrth siarad am ei bywyd, mae Margaret yn dweud ei bod yn hynod falch o'i theulu.  Yn dilyn y rhyfel, bu i Margaret gyfarfod ei gŵr, Vic, mewn dawns ym Maesteg a chawsant bedwar o blant.  Dywedodd Margaret: "Nid wyf yn edifar am ddim.  Cyngor fy mam oedd peidio ' byw yn uwch na'ch stad ' ac rwy'n falch fy mod wedi magu fy nheulu gyda hyn mewn golwg.  Rydw i wedi cyrraedd lle rydw i heddiw gydag arweiniad fy rhieni.

"Byddwn yn dweud wrth bobl ifanc heddiw, ewch allan i gofleidio bywyd! Peidiwch â mynd ar eich ffonau ac ewch i fyw eich bywyd!"

Dywedodd Lynn, mab Margaret: "Mae'r teulu yn hynod o ddiolchgar am bopeth mae Mam wedi'i wneud inni ac am ei chyfraniad yn y rhyfel. 

"Mae Mam yn edrych ymlaen yn arw at ei phen blwydd yn 100 oed ac i dderbyn cerdyn gan y Brenin Charles.  Mae hi nawr yn un o'r cyn-filwyr rhyfel prin sydd ar ôl gyda straeon am fywyd go iawn i'w hadrodd. 

“Rydym yn falch iawn o Mam ac yn ei charu'n fawr."

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd:

Am fywyd gwerth chweil hyd heddiw! Mae Margaret yn drysor gyda chymaint i'w gynnig, nid dim ond wrth roi golau ar y gorffennol, ond hefyd yn cynnig cyngor heb ei ail ar gyfer y dyfodol. Mae gan y staff i gyd yn Nhŷ Cwm Ogwr air da i'w ddweud am Margaret ac maent wrth eu bodd yn clywed ei straeon, gymaint ag y mae hi'n mwynhau eu hadrodd!

Mae Tŷ Cwm Ogwr yn adlewyrchu'r cartrefi gofal preswyl cynhwysol, o safon uchel mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cynnig ledled y fwrdeistref sirol. Ar draws ein llety sydd ar gael, mae gennym dimau gofal yn ymdrechu i weithio ar y cyd gydag unigolion, eu perthnasau, ein partneriaid iechyd a mwy, i sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau a chymorth dyddiol, gydag amynedd, caredigrwydd a gofal.

Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr i ddathlu pen blwydd Margaret yn gant oed ym mis Gorffennaf! Rwy'n gwybod bod gan ei theulu gynlluniau ar y gweill yn barod!

Delweddau: Margaret ifanc yn y Llu Awyr Brenhinol; Margaret yn gwisgo ei medalau yn Nhŷ Cwm Ogwr.

Chwilio A i Y