Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet
Poster information
Posted on: Dydd Llun 07 Hydref 2024
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo'r Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref, sy'n adlewyrchu'r newidiadau diweddar i'r ddeddfwriaeth mewn perthynas ag addysg yn y cartref.
Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf yn 2007, mae'r polisi yn hyrwyddo dull rhagweithiol gan yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod y plant hynny sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref yn derbyn addysg o safon a'u bod yn cael eu diogelu.
Mae'r ddogfen yn annog dull cydweithredol o weithio rhwng yr awdurdod lleol, yr addysgwyr gartref ac asiantaethau perthnasol, gan gynnwys ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau'n gysylltiedig ag iechyd. Mae'r gefnogaeth aml-asiantaeth hon yn hanfodol er mwyn rhannu adnoddau a gwybodaeth briodol i sefydlu system gefnogi gynhwysfawr ar gyfer plant a'u teuluoedd.
Mae demograffeg teuluoedd sy'n dewis addysgu eu plant gartref hefyd yn cael ei ddwyn ynghyd, fel y gall rhai addysgwyr gartref gael eu cynorthwyo yn y ffordd orau, a bod gan yr awdurdod lleol drosolwg dros y strategaethau addysgol sy'n cael eu defnyddio.
Mae'r polisi diwygiedig yn eiriol dros berthnasau cryfach rhwng y cyngor a'r cartref, gydag addysg a diogelu'r plentyn yn dod yn brif feysydd blaenoriaeth. Bydd yr awdurdod lleol yn monitro ac yn gwarchod plant bregus, gan sicrhau bod y mesurau priodol yn cael eu rhoi yn eu lle i ofalu am eu lles.
Os bernir bod yr addysg ddewisol yn y cartref yn is na'r safon dderbyniol, a thra hefyd yn ystyried dymuniad y plentyn, gall y cyngor ddyroddi Gorchymyn Mynychu'r Ysgol fel bod y dysgwr yn derbyn yr addysg mae ef/hi yn ei haeddu.
Meddai'r Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: "Rydym yn llwyr gefnogi teuluoedd sy'n dewis addysgu eu plant gartref.
"Mae gan bob plentyn o oedran ysgol gorfodol yr hawl i addysg lawn amser sy'n gweddu orau i'w hanghenion, p'un a yw'n cael ei dderbyn gartref neu yn yr ysgol. Fel awdurdod lleol, y mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod yr holl blant ar draws y fwrdeistref sirol yn derbyn addysg o safon ac mae'r Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref yn hanfodol wrth gefnogi hyn.
"Mae'r Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref yn gwbl hanfodol er mwyn diogelu lles a hawliau addysgol plant a phobl ifanc."