Pentref gwyliau antur newydd gwerth £250m yn symud gam ymlaen
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Mai 2023
Bydd angen cau llwybrau cerdded a gosod ffensys dros dro o gwmpas safle datblygu yng Nghwm Afan uchaf wrth i waith fynd rhagddo ar bentref gwyliau antur newydd, gwerth £250m.
Wedi’i leoli ar 132 hectar, ger y ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae llythyr wedi’i gyhoeddi ar y cyd gan awdurdodau lleol y ddwy ardal, yn ogystal â’r datblygwyr, Wildfox Resorts, i drigolion sy’n byw mewn cymunedau ger y safle, er mwyn eu cynghori bod y mesurau dros dro’n hanfodol er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd.
Bydd y gwaith adeiladu’n cael ei gynnal mewn camau, a disgwylir i’r gwaith bara tan 2027, felly mae’n debygol y bydd angen cau llwybrau cerdded ychwanegol am gyfnodau dros dro cyn iddynt ddod yn gwbl hygyrch eto ar ôl cwblhau'r gwaith.
Pan fydd y pentref gwyliau’n agor, bydd 570 o gabanau a 130 o fflatiau ac ystafelloedd ar gael i westeion wrth iddynt fwynhau ystod o weithgareddau antur awyr agored a dan do, fel nofio gwyllt, beicio mynydd, cerdded, canŵio, dringo wal greigiau dan do a mwy.
Mae hwn yn ddatblygiad hynod uchelgeisiol, a bydd yn ysgogi ton newydd o gyflogaeth a thwristiaeth yng nghymoedd de Cymru.
Disgwylir i'r pentref gwyliau gyflogi tua 1,000 o bobl yn ogystal â'r swyddi fydd yn cael eu creu yn ystod y broses adeiladu, a gyda llwybrau mynediad yn rhedeg drwy ardaloedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, bydd yn cynnig digon o gyfleoedd cyflenwi, hyfforddi a buddsoddi.
Mae’n hanfodol ein bod yn cau llwybrau cerdded a gosod ffensys dros dro er mwyn sicrhau bod modd i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo yn ddiogel, ac er mwyn diogelu trigolion. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau anghyfleustra ac er mwyn osgoi amharu ar bobl yn ystod y broses o adeiladu’r pentref gwyliau a bydd yr holl hawliau tramwy cyhoeddus yn cael eu hadfer cyn gynted â phosibl.
Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae map a rhestr lawn o’r hawliau tramwy cyhoeddus fydd yn cau dros dro i’w gweld ar wefan Wildfox Resorts: