Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Penodi contractwr i weithio ar gyfleusterau newydd Cosy Corner, gwerth £2.1m

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi penodi'r cwmni Cymreig, John Weaver Contractors Ltd i ddarparu'r cyfleusterau cymunedol newydd sbon, gwerth £2.1m yn Cosy Corner ym Mhorthcawl.

Wedi'u hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, mae cynlluniau'r cyngor ar gyfer Cosy Corner yn cynnwys adeilad cerrig a gwydr newydd sbon, a fydd yn cynnwys lleoliadau sy’n addas ar gyfer pum uned manwerthu fach, toiledau cyhoeddus, man cyfarfod at ddefnydd y gymuned, swyddfeydd ar gyfer yr harbwrfeistr, cyfleusterau newid ar gyfer defnyddwyr y marina cyfagos, a mwy.

Mae’r datblygiad newydd hefyd yn cynnwys ardal chwarae awyr agored i blant, tirlunio newydd gyda digonedd o seddau cyhoeddus, man i gynnal digwyddiadau a chanopi a fydd yn cynnig cysgod cyfforddus yn yr awyr agored rhag y glaw a'r haul. 

Dehongliad artist o sut fydd Cosy Corner yn edrych ar ôl adeiladu'r cyfleusterau cymunedol newydd (Delwedd gyda diolch i EPT Partnership Limited).
Dehongliad artist o sut fydd Cosy Corner yn edrych ar ôl adeiladu'r cyfleusterau cymunedol newydd (Delwedd gyda diolch i EPT Partnership Limited).

Yn ogystal â chefnogi cynlluniau parhaus y cyngor ar gyfer datblygu'r Llyn Halen a'r ardaloedd ger y dŵr, bwriedir i'r cynlluniau ar gyfer Cosy Corner ategu prosiectau adfywio eraill fel y marina newydd, amddiffynfeydd môr newydd, Adeilad Jennings a adferwyd yn ddiweddar a gwelliannau sydd i ddod i forglawdd y dwyrain.

Mae'n adlewyrchu adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl yn ddiweddar, a oedd yn dangos bod trigolion o blaid sefydlu a chynnal man agored lle gall pobl gwrdd, ymlacio a mwynhau'r cyfleusterau cyfagos.

Mae disgwyl i waith ar y datblygiad newydd ddechrau fis nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn ychwanegiad hynod boblogaidd i Borthcawl.

Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr

Bydd y datblygiadau yn Cosy Corner wir yn ategu'r gwaith sy'n cael ei wneud i wella Porthcawl i fod yn lleoliad ar gyfer ymwelwyr - yn ogystal â phobl leol. Rwy'n hynod falch ein bod yn gallu cefnogi'r datblygiad hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y prosiect wedi'i orffen y flwyddyn nesaf.

Gweinidog yr Economi ar gyfer Cymru, Vaughan Gething

Disgwylir cwblhau'r cyfleusterau cymunedol newydd sbon yn barod erbyn Gwanwyn 2023. 

Chwilio A i Y