Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ennill gwobr bwysig

Hoffai Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarch Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Meurig Jones, am gael ei goroni fel 'Pennaeth y Flwyddyn' yn seremoni lewyrchus Gwobrau Addysg Proffesiynol Cymru.

Mae'r gwobrau'n rhoi sylw i'r ansawdd arbennig o addysgu yng Nghymru, ac yn dathlu cyfraniadau staff o bob cwr o'r wlad.

"A minnau'n fachgen o'r Cymoedd, sy'n rhugl yn y Gymraeg, mae'n bleser ac yn fraint cael derbyn y wobr hon", meddai Meurig, a gafodd ei benodi'n Bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn 2016.

"Mae'n braf cael gweithio gyda thîm o staff mor arbennig sy'n gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod dysgwyr yn cael yr addysg orau bosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Fy hoff ran o'r swydd yw gweithio gyda'r disgyblion. Maen nhw'n wych, ac mae gwybod bod eu rhieni a'u gofalwyr yn ein cefnogi'n gwneud y swydd mor werth chweil. Rwy'n falch iawn o allu arwain yr ysgol a dathlu llwyddiant dysgwyr a staff, boed yn academaidd, yn ddiwylliannol neu'n allgyrsiol.

"Rwy'n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, y diwylliant a'r hanes yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau â'm gwaith o weld yr ardal yn datblygu ei darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn fuan."

Hoffem hefyd longyfarch Gill Sullivan o Ysgol Maesteg, a gafodd ei henwebu yng nghategori 'Cefnogi Addysgu a Dysgu'.

Mae Gill wedi gweithio yn yr ysgol ers dros 12 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi cefnogi miloedd o blant drwy sawl cyfnod heriol iawn. Gwnaeth dros 2,000 o alwadau ffôn yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, i sicrhau diogelwch a llesiant y plant mwyaf bregus.                                                  

Mae hwn yn gyflawniad rhagorol i Meurig a phawb yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Mae brwdfrydedd Meurig dros gynnig addysg drwy gyfrwng y Gymraeg heb ei ail, ac mae'n llwyr haeddiannol o'r wobr.

Hoffwn hefyd ganmol Gill Sullivan am y cyfraniadau gwerthfawr mae hi'n eu gwneud yn Ysgol Maesteg. Mae ei hymrwymiad i lesiant disgyblion yn aruthrol, ac rwy'n siŵr bod yr holl ddisgyblion a staff yn yr ysgol yn dymuno cydnabod ei gwaith hollbwysig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell:

Chwilio A i Y