Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain y ffordd gyda hwb lleoliad plant arloesol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Medi 2023
Mae hwb arloesol newydd i asesu a lleoli plant, wedi’i agor yn swyddogol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn darparu ar gyfer pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth ar adegau o argyfwng a phontio.
Mae’r cyfleuster, sy’n wedi’i ariannu ar y cyd gan y cyngor a Llywodraeth Cymru, drwy raglen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig a chyfalaf Tai â Gofal, yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae’r hwb pwrpasol yn cynnig cyfleuster sy’n cynnwys saith ystafell wely, pedwar gwely asesu, a thri gwely brys ychwanegol mewn amgylchedd o’r radd flaenaf. Mae’r ddarpariaeth arloesol wedi’i dylunio i gynnig cymorth brys i bobl ifanc mewn lleoliad cartrefol a diogel wrth iddynt ymgymryd ag asesiad cynnar.
Mae'r ddarpariaeth yn dyst i ymrwymiad yr awdurdod lleol i ymyrraeth gynnar a sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n profi anghenion cymhleth yn flaenoriaeth.
Wedi’i fodelu dan ddull ‘dim drws anghywir’ y Comisiynydd Plant, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo’n llwyr i ddull integredig wrth ymateb i anghenion plant a phobl ifanc, gyda thîm ymroddedig o weithwyr allweddol hynod fedrus sy’n aros gyda’r person ifanc drwy gydol ei daith.
Cafodd uwch swyddogion ac aelodau cabinet y cyngor daith dywysedig o’r cyfleuster newydd, yn ogystal â’r cyfle i gwrdd â staff a gofyn unrhyw gwestiynau am y ddarpariaeth newydd.
Rwyf mor falch ein bod yn arwain y ffordd gyda'r dull arloesol hwn o gynnig gwasanaethau preswyl i blant. Mae’n ategu ein huchelgais o wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhywle lle gall pob plentyn ffynnu.
Fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith bod y ddarpariaeth hon hefyd o fudd i blant a phobl ifanc ar lefel ranbarthol.
Mae’n fan dechrau inni symud ymlaen at ddyfodol disglair ar gyfer ein plant, ac rydym yn diolch i’n partneriaid am gefnogi ein nodau o greu amgylcheddau gwella a meithrin hirdymor, lle mae pobl ifanc yn cael cyfle i wireddu eu potensial.
Dirprwy Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Jane Gebbie
Dywedodd Sarah Mills, Pennaeth yr Uned Gomisiynu Ranbarthol: “Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn falch o gefnogi datblygiad y ddarpariaeth hon. Wedi buddsoddi £1.5 miliwn o adnoddau cyfalaf partneriaeth, mae’r llety preswyl unigryw'n gam pwysig wrth gefnogi anghenion llety ac asesu plant a phobl ifanc yn y rhanbarth. Bydd y lleoliad bywiog yn cefnogi iechyd a llesiant emosiynol yn ogystal â sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi o fewn eu cymuned leol.”