Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Partneriaeth yn cipio tair gwobr ym menter llesiant anifeiliaid y RSPCA

Mae Gwasanaeth Rheoleiddio Cyfrannol (SRS) Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg wedi ennill tair gwobr ym menter PawPrints RSPCA 2022, yn cynnwys dwy Aur.

Cafodd y bartneriaeth ei chydnabod mewn tri chategori gwahanol - Cŵn Coll (Aur), Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid (Aur) a Chŵn mewn Cynelau (Efydd).

Wedi’i sefydlu yn 2015, nod y gwasanaeth yw uno materion allweddol megis safonau masnach, trwyddedu a llesiant anifeiliaid yn y rhanbarth.

Mae’r cynllun wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach, a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r Gwasanaeth Rheoleiddio Cyfrannol gyflawni'r safon aur trwyddedu gweithgareddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid, ac mae'n dangos gwelliant ers y wobr arian y llynedd.

Mae'n nodedig hefyd mai'r SRS yw'r unig wasanaeth yng Nghymru i gyflawni'r safon aur yn y categori hwn.

Mae'r wobr hon yn gwbl haeddiannol gan fod y tîm yn gweithio'n eithriadol o galed, mewn amgylchiadau heriol iawn ar adegau, i sicrhau iechyd a llesiant anifeiliaid.

Allwn i ddim bod yn fwy balch bod eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod mor gadarnhaol ac mae'n braf iawn gweld y bartneriaeth hanfodol hon yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Dywedodd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant:

Chwilio A i Y