Parthau ‘dim torri gwair’ newydd yn helpu i gydbwyso torri gwair â bioamrywiaeth
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 14 Mai 2024
Mae cyfres o barthau ‘dim torri gwair’ wedi’u sefydlu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i hyrwyddo mwy o fioamrywiaeth, helpu blodau gwyllt a pheillwyr i ledaenu, a chefnogi bywyd gwyllt lleol gan gynnwys gloÿnnod byw, gwenyn, adar a thrychfilod.
Mae tîm Mannau Gwyrdd y cyngor wedi sefydlu 24 o wahanol barthau ‘dim torri gwair’ lle bydd llai o dorri gwair yn digwydd yn ystod tymor yr haf er mwyn annog fflora a ffawna i ffynnu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ardaloedd ‘cicio pêl’ anffurfiol yn Alma Road ym Maesteg, Foxfields a The Chase ym Mracla, Rhes Humphreys yng Nghaerau, Cavendish Court ym Mhen-y-fai, Newton Burrows ym Mhorthcawl, St. Christopher’s Road ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Waun Cimla ym Mynydd Cynffig.
- Meysydd chwarae Goetre-hen, Heol-y-cyw, Lewistown, Pen-y-fai a Rhodfa Orllewinol Fawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr; Aberfields yng Nghwm Ogwr a Phwll-y-garn ym Mlaengarw.
- Bridge Street a River Street ym Maesteg, a rhannau o Barc Llesiant Maesteg.
- Heol Bower a Rhodfa Tytalwyn ym Mynydd Cynffig, a’r cwrt peli yn Lewistown.
- Ardal y ddôl yng Nghomin Lock ym Mhorthcawl, rhan isaf Comin Mynydd Bach yng Nghefn Cribwr, a Chomin Pen-y-fai.
- Rhannau mawr o Gaeau Newbridge ar ddwy ochr yr afon.
Ar yr un pryd, mae Strategaeth Gwella Bioamrywiaeth Priffyrdd a Pharciau yn helpu i gynnal hectarau o fannau agored ledled y fwrdeistref sirol.
O dan y strategaeth, mae torri gwair yn digwydd mewn mannau gwyrdd trefol bum gwaith dros gyfnod o dymor, a phedair gwaith mewn mannau gwyrdd gwledig. Mae’r strategaeth hefyd yn sicrhau bod torri gwair yn parhau i ddigwydd mewn lleoliadau penodol i sicrhau bod gyrwyr yn gallu gweld yn glir, cadw cyffyrdd yn glir, gwneud llwybrau cerdded yn hygyrch a mwy.
Ar ymylon priffyrdd, mae gweithwyr yn ceisio torri o amgylch ardaloedd lle mae blodau’n ffynnu’n naturiol, fel y llysiau’r parlys sy’n bresennol ar yr A4106 ar Allt Danygraig.
Mae'r cyngor hefyd annog blodau gwyllt i dyfu mewn mannau fel yr ymylon sy’n rhedeg ar hyd y llwybr beicio rhwng Bracla a Heol West Plas yng Nghoety.
Mae’r dull hwn wedi cynhyrchu canlyniadau lliwgar ar yr ymylon ger Pen-yr-heol ym Mhen-y-fai, lle mae blodau fel blodau'r brain, crafanc brân y gweunydd, gwelltfrwyn a chribellau melyn oll wedi ffynnu.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae nifer gynyddol o gymunedau ledled y DU yn hyrwyddo bioamrywiaeth well drwy greu mannau gwyrdd, dolydd blodau gwyllt a mwy.
“Mae sefydlu’r parthau ‘dim torri gwair’ newydd hyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ffurfio rhan o’n hymagwedd gyffredinol tuag at fioamrywiaeth, ac ynghyd â’n strategaeth gyfoethogi, maent yn dangos ymdrechion y cyngor i gael y cydbwysedd yn iawn.”