Paratoadau yn eu lle ar gyfer cyfnod pontio gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 20 Mawrth 2024
Mae’r cynlluniau ar gyfer newid darparwr gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu y cyngor yn eu lle wrth i’r contractwr newydd, Plan B Management Solutions, baratoi i gymryd drosodd gan Kier Group Ltd, sy’n dod at ddiwedd eu gwasanaeth.
Er mwyn paratoi ar gyfer y newid ddydd Mawrth 2 Ebrill, ni fydd y porth ailgylchu a gwastraff ar-lein ar gael dros dro rhwng hanner dydd, ddydd Iau 28 Mawrth a hanner nos, nos Sul 31 Mawrth.
Cynghorir trigolion sy’n dymuno archebu blychau ailgylchu newydd yn lle eu hen rai, neu sydd eisiau archebu casgliad gwastraff sylweddol, i gyflwyno eu harchebion cyn 28 Mawrth, neu ar ôl 31 Mawrth.
Ni fydd unrhyw newidiadau i ddiwrnodau casgliadau nac amlder casgliadau ar garreg y drws, a bydd aelwydydd yn parhau i ddefnyddio’r un blychau ailgylchu a ddefnyddir ar hyn o bryd.
Bydd Plan B Management Solutions hefyd yn cymryd rheolaeth o ganolfannau ailgylchu cymunedol a’r cerbydau sydd eisoes yn bodoli, peiriannau ac offer a ddefnyddir gan y Kier Group ar hyn o bryd.
Rwy’n falch iawn o groesawu Plan B Management Solutions fel ein partner gwastraff ac ailgylchu newydd. Mae eu profiad amlwg a’u hymrwymiad i ragoriaeth gwasanaeth yn dod â chyfoeth o brofiad a fydd yn sicr o arwain at wasanaeth rheoli gwastraff gwell, mwy effeithiol i’n cymunedau o ganlyniad.
Hoffwn argyhoeddi trigolion y bydd cyn lleied â phosibl o darfu ar wasanaethau yn ystod cyfnod y newid a hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.
Hoffwn ddiolch hefyd i’r Kier Group am eu blynyddoedd o wasanaeth i’n cymuned a dymuno’n dda iddynt yn y dyfodol
Y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
Rydym yn falch iawn o fod yn croesawu’r staff sy’n trosglwyddo drosodd, ac mae gennym berthynas â llawer ohonynt eisoes fel rhan o’n trefniadau gyda Kier.
Mae nifer o’r staff Plan B wedi bod yn ymwneud â’r contract Pen-y-bont ar Ogwr ers 2016 ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r cyngor a chyflwyno mentrau newydd y bydd y gymuned leol yn elwa ohonynt
Maz Akhtar, Rheolwr Gyfarwyddwr Plan B Management Solutions,: